Shane Williams yn ymosod yn erbyn De Affrica
|
Colli o drwch blewyn wnaeth Cymru yn erbyn pencampwyr y byd De Affrica yn eu gêm agoriadol yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd. De Affrica oedd yn fuddugol 17-16. Daeth Cymru yn agos i fuddugoliaeth gyda James Hook yn methu cig gosb yn y 72 munud. Ar ôl dechrau siomedig, aeth Cymru ar y blaen 16-10 yn yr ail hanner gyda Faletau yn croesi'r llinell. Ond wrth iddi ymddangos bod Cymru ar fin dathlu buddugoliaeth wych fe groesodd yr asgellwr Hougaard dan y pyst, ac fe lwydodd Morne Steyn gyda'r gic. Er gwaetha'r perfformiad da dros 80 munud dechreuad sigledig gafodd Cymru. Ar ôl i Dde Affrica sicrhau'r bêl o gic Priestland daeth y bêl i Frans Steyn. Ymdrechion Er gwaethaf ymdrechion Shane Williams a Hook, llwyddodd i groesi'r llinelli. Ar ôl hynny daeth Cymru yn ôl i'r gêm gyda Hook yn llwyddiannus gyda thair cic gosb. Er iddynt bwyso ar ddiwedd y gêm methodd Priestland gyda gôl adlam, cyn cynnig aflwyddiannus Hook. Ar ôl y gêm dywedodd hyfforddwr Cymru Warren Gatland ei fod yn falch o'i chwaraewyr a'u hymdrechion "Fe wnaethom bopeth heblaw ennill y gêm. Mae'n rhaid i chi fanteisio ar bob cyfle," meddai. "D'oedd y dechrau ddim yn un da ond, ar ôl hynny, ni oedd yn rheoli'r meddiant ac yn chwarae rygbi gwych. "Er bod yna gyfle i ennill yn y diwedd rhaid dweud nad oeddem yn ddigon da i wneud hynny." Canlyniadau: Grwp A: Seland Newydd 41-10 Tonga, Ffrainc 47-21 Japan Grwp B: Y Alban 34-24 Rwmania, Lloegr 13-9 Ariannin Grwp C: Iwerddon 22-10 Unol Daleithiau Grwp D: Cymru 16-17 De Affrica, Fiji 49-21 Namibia
|