British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 11 Medi 2011, 19:10 GMT 20:10 UK
Marwolaeth Wembley: Arestio tri arall

Mike Dye
Bu farw Michael Dye ddydd Mawrth

Cafodd tri pherson arall eu harestio ddydd Sul mewn cysylltiad â marwolaeth un o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru yn Wembley ddydd Mawrth.

Aeth y tri i orsaf heddlu yng ngorllewin Mersia fore Sul, ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Yn gynharach ddydd Sul cyhoeddwyd bod Ian Mytton, 41 oed o Redditch, Sir Gaerwrangon wedi ei gyhuddo o ddynladdiad

Cafodd ei arestio yn Sir Gaerwrangon ddydd Gwener ac fe fydd yn ymddangos o flaen llys ynadon Redditch ddydd Llun.

Bu farw Michael Dye, 44 o Gaerdydd, wedi iddo ddioddef anafiadau i'w ben a chael trawiad cyn y gêm yn erbyn Lloegr yng Nghystadleuaeth Euro 2012.

Dywedodd Scotland Yard na fyddai unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y chwech o bobl gafodd eu harestio yn dilyn y digwyddiad.

Fe gawson nhw'u harestio nos Fawrth yn dilyn marwolaeth Mr Dye.

Fe wnaeth chwaraewyr Caerdydd gynnal munud o ddistawrwydd cyn eu gêm yn erbyn Doncaster yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn er cof am Mr Dye.

Ymunodd rheolwr Cymru, Gary Speed, gyda rheolwyr y ddau dîm wrth ochr y cae ar gyfer y munud o ddistawrwydd.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific