British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 12 Medi 2011, 12:02 GMT 13:02 UK
Marwolaeth Michael Dye: Dyn o flaen llys

Mike Dye
Bu farw Michael Dye ddydd Mawrth

Mae dyn 41 oed wedi bod yn Llys Ynadon Redditch ar gyhuddiad o ddynladdiad ar ôl marwolaeth un o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru yn Wembley ddydd Mawrth.

Bu farw Michael Dye, 44 oed o Gaerdydd, wedi iddo gael anafiadau i'w ben a thrawiad ar y galon cyn y gêm yn erbyn Lloegr yng Nghystadleuaeth Euro 2012.

Cafodd Ian Mytton, 41 oed o Redditch, Sir Gaerwrangon, ei gadw yn y ddalfa tan Fedi 20 cyn ymddangos yn Llys y Goron Caerwrangon.

Mae tri o bobl gafodd eu harestio ddydd Sul wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Dywedodd Scotland Yard na fyddai unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y chwech gafodd eu harestio nos Fawrth.

Fe wnaeth chwaraewyr Caerdydd gynnal munud o ddistawrwydd cyn eu gêm yn erbyn Doncaster yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn er cof am Mr Dye.

Ymunodd rheolwr Cymru, Gary Speed, gyda rheolwyr y ddau dîm wrth ochr y cae ar gyfer y funud o ddistawrwydd.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific