British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 11 Medi 2011, 14:23 GMT 15:23 UK
Y byd yn cofio Medi 11, 2001

Roedd Cyngerdd goffa yn Efrog Newydd ddydd Sul, ym mhresenoldeb yr Arlywydd Obama a'r cyn Arlywydd Bush
Roedd Cyngerdd goffa yn Efrog Newydd ddydd Sul, ym mhresenoldeb yr Arlywydd Obama a'r cyn Arlywydd Bush

Ddydd Sul mae Cymru a gweddill y byd yn cofio 10 mlynedd wedi trychineb Medi 11, 2001 pan fu farw bron i 3,000 o bobl.

Cafwyd cyngerdd goffa yn Efrog Newydd ddydd Sul, ym mhresenoldeb yr Arlywydd Obama a'r cyn Arlywydd Bush.

Yn Llundain fe wnaeth teuluoedd a ffrindiau'r rhai gafodd eu lladd ymgynnull am 11am mewn seremoni goffa yng Nghadeirlan St Paul's.

Cafwyd seremoni yng Ngerddi Goffa Sgwâr Grosvenor, Llundain, yng nghwmni'r Tywysog Charles, Duges Cernyw a Llysgennad America ym Mhrydain.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cofio digwyddiadau Medi 11 mewn cyngerdd arbennig i gofio'r trychineb, a fydd yn cael ei gynnal yn y Lincoln Centre yn Efrog Newydd.

Mae'r cyngerdd yn cynnwys dau ddarn gan y cyfansoddwr o Gymru, Karl Jenkins, sef 'The Armed Man: A Mass for Peace' a 'For the Fallen: In Memoriam Alfryn Jenkins' (a fydd yn cael eu clywed am y tro cyntaf yn yr UD).

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi anfon ei gydymdeimlad at bobl America.

'Yr aberth eithaf'

Dywedodd y Prif Weinidog: "Heddiw, mae pobl Cymru yn meddwl am y rheini a gollodd eu bywydau ar Fedi 11, ac am eu teuluoedd a'u ffrindiau.

"Cafodd pob un ohonon ni ein brawychu wrth i ni wylio digwyddiadau'r diwrnod ofnadwy hwnnw, ac roedd hi'n anodd credu'r golygfeydd erchyll.

"Ni fyddaf fyth yn anghofio pa mor ddewr a phenderfynol oedd y diffoddwyr tân ac aelodau'r gwasanaethau brys eraill, a weithiodd heb feddwl amdanyn nhw eu hunain.

"Gwnaethon nhw'r aberth eithaf i geisio achub pobl eraill. Gwelsom ni ddynoliaeth ar ei gorau ac ar ei gwaethaf ar Fedi 11.

"Mae pobl Cymru yn sefyll gyda phobl America i ddangos ein bod yn unedig yn erbyn terfysgaeth, gan hyrwyddo ac amddiffyn y gwerthoedd sy'n gyffredin rhyngon ni, sef bod yn oddefgar, dangos dealltwriaeth a pharchu ein gilydd.

"Mae pob cymuned a ffydd yng Nghymru wedi ymrwymo i'r gwerthoedd hyn - dyma sy'n uno ein cymdeithas."

Yr ymosodiadau ar Fedi 11 2001 oedd y rhai mwyaf ar dir yr Unol Daleithiau ers ymosodiad Pearl Harbour yn ystod Yr Ail Ryfel Byd.

Fe fydd rhaglen arbennig gan Newyddion BBC Cymru o America ar S4C nos Sul am 9pm.

Diffoddwyr tn yn cofio'r rhai a fu farw ar Fedi 11, 2001.
Diffoddwyr tn mewn seremoni yn Efrog Newydd i gofio eu cyfeillion a fu farw ar Fedi 11, 2001.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific