Cred yr heddlu fod Callum wedi mynd i drafferthion wrth nofio ar Awst 24
|
Mae angladd dyn 22 oed a fu farw ger Ynys Môn wedi cael ei gynnal ddydd Sadwrn. Aeth Callum Mackay a'i gyfaill Lewis Darroch i drafferthion ger creigiau yn ymyl Rhosneigr y mis diwethaf. Cred yr heddlu fod Callum wedi mynd i drafferthion wrth nofio ar Awst 24 a bod ei gyfaill wedi neidio i'r dŵr i geisio'i gynorthwyo. Llwyddodd hofrennydd y Llu Awyr i dynnu Lewis Darroch o'r môr, ond bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach. Wedi deuddydd o chwilio gan yr heddlu, gwylwyr y glannau a badau achub, rhoddwyd y gorau i chwilio am Callum Mackay, ond cafodd ei gorff ei ddarganfod ger Rhosneigr wythnos yn ddiweddarach. Cafodd yr angladd ei gynnal yn Llanfairpwll ar Ynys Môn am 2:00pm ddydd Sadwrn.
|