British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 9 Medi 2011, 11:12 GMT 12:12 UK
Cefnogwr: Dim camau pellach yn erbyn chwech

Mike Dye
Roedd Michael Dye yn byw yng Nghaerdydd

Mae Heddlu Llundain sy'n ymchwilio i farwolaeth cefnogwr tîm pêl-droed Cymru wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n cymryd camau pellach yn erbyn chwech o bobl oedd ar fechnïaeth.

Roedd y pedwar, o ogledd Cymru a dau o Loegr a oedd yn wreiddiol o dde ddwyrain Cymru, yn eu 20au hwyr a'u 40au cynnar.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu na fyddai'r chwech yn cael eu holi eto fis Tachwedd fel y cyhoeddwyd yn wreiddiol.

Cafodd Michael Dye, 44 oed o Gaerdydd, anafiadau i'w ben y tu allan i Stadiwm Wembley cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr nos Fawrth.

Aed ag e i'r ysbyty ac roedd wedi cael trawiad ar y galon. Bu farw yno yn ddiweddarach.

Mae disgwyl canlyniadau archwiliad post mortem ac mae disgwyl i'r cwest i'w farwolaeth agor yr wythnos nesaf.

Mae'r Adran Achosion Lladd a Throseddau Difrifol yn parhau i ymchwilio ac yn apelio am dystion i'r ymosodiad ger y fynedfa i mewn i'r stadiwm.

Mae ystafell ymchwilio wedi ei sefydlu yng ngorsaf heddlu Hendon.

"Hoffwn apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r hyn ddigwyddodd i gysylltu gyda ni," meddai'r Ditectif Uwch Arolygydd Sheila Stewart.

"Fe ddigwyddodd y tu allan i'r Stadiwm ger mynedfa C."

Mae modd ffonio'r ystafell ymchwilio ar 020 8358 0100 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.



HEFYD
Marwolaeth: Rhyddhau chwech
08 Medi 11 |  Newyddion
Dal i ymchwilio i farwolaeth cefnogwr
07 Medi 11 |  Newyddion
Ymchwilio i farwolaeth
07 Medi 11 |  Newyddion
Lloegr 1 - 0 Cymru
06 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific