British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 9 Medi 2011, 06:43 GMT 07:43 UK
Rhys Priestland fydd y maswr yn erbyn De Affrica

Rhys Priestland yn ymarfer
Rhys Priestland fydd y maswr wrth i James Hook fod yn gefnwr ar gyfer y gm gyntaf

Rhys Priestland fydd yn gwisgo crys rhif 10 i Gymru yn eu gêm gyntaf ym mhencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd 2011 yn Seland Newydd.

Ddydd Sul fydd y gêm yn erbyn De Affrica yn Stadiwm Wellington.

Priestland fydd y maswr gan nad yw anaf Stephen Jones yn caniatáu iddo gael ei ystyried ar gyfer y gêm.

Roedd 'na gryn drafod pwy fyddai'n cael y crys ac mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn cynnwys James Hook yn y tîm, ond fel cefnwr a hynny yn lle Lee Byrne.

Caiff George North le yn y tîm ar draul Leigh Halfpenny fel asgellwr dde.

Mae Bradley Davies ar y fainc wrth i Alun Wyn Jones a Luke Charteris fod yn bartneriaid yn yr ail reng.

Bydd Dan Lydiate a Toby Faletau yn y 15 ac yn ymuno gyda'r capten Sam Warburton.

Anafiadau

Dyma'r tro cyntaf i'r tri chwarae mewn Cwpan y Byd a dim ond tair gêm maen nhw wedi ei chwarae gyda'i gilydd dros Gymru.

Tri newid sydd 'na i'r 15 gychwynnodd y gêm pan enillodd Cymru yn erbyn Lloegr o 19-9 yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Awst.

Jamie Roberts a Jonathan Davies yw'r canolwyr gyda Adam Jones a Paul James fel y prop a Huw Bennett fel y bachwr.

Ryan Jones a Stephen Jones
Mae gan Ryan Jones a Stephen Jones anafiadau

Un cap arall y mae Stephen Jones ei agen i fod y Cymro sydd wedi chwarae mwya dros ei wlad.

Ond mae anaf i'w goes yn golygu na fydd o'n chwarae ddydd Sul ac yn rhoi cyfle arall i Priestland a fydd yn ennill ei bumed cap.

Oherwydd yr anaf i Jones fe gychwynnodd Priestland, 24 oed, ei gêm gyntaf dros Gymru yn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr.

Dal i ddiodde y mae Ryan Jones ac Andy Powell sydd ar y fainc.

Fe allai Ryan Jones ddychwelyd adre ac mae disgwyl i'r tîm hyfforddi wneud penderfyniad wedi'r gêm fore Sul.

Dywedodd yr hyfforddwr eu bod yn chwilio am fuddugoliaeth o'r gêm gyntaf.

"Os ydi pencampwyr y byd yn eich grŵp, nhw 'da chi eisiau eu hwynebu gyntaf a rhoi popeth i'w curo," meddai Gatland wrth gyhoeddi'r tîm.

Grŵp D

"Rydan ni'n y grŵp anodda yn y bencampwriaeth ond fe wyddon ni y gallwn ni lwyddo.

"Mae'r chwaraewyr wedi gwneud popeth yr ydym wedi eid disgwyl ganddyn nhw ac maen nhw wedi gweithio yn galed iawn."

Unwaith mewn 25 gêm ers 1906 y mae Cymru wedi trechu De Affrica.

Y timau eraill yn yr un grŵp yw Samoa, Fiji a Namibia.

Y ddau dîm ar dop y grŵp fydd yn mynd ymlaen i'r rownd go-gyn derfynol.

Fe fydd sylwebaeth lawn o'r gêm ar BBC Radio Cymru, y rhaglen yn dechrau am 9.15am a'r gic gynta am 9.30am.

Tîm Cymru

James Hook; George North; Jonathan Davies; Jamie Roberts; Shane Williams; Rhys Priestland; Mike Phillips; Paul James; Huw Bennett; Adam Jones; Luke Charteris; Alun Wyn Jones; Dan Lydiate; Sam Warburton (capten) a Toby Faletau.

Eilyddion: Ryan Bevington; Lee Burns; Bradley Davies; Andy Powell; Tavis Knoyle; Scott Williams; Leigh Halfpenny.

Tîm De Affrica

Frans Steyn; JP Pietersen; Jaque Fourie; Jean de Villiers; Bryan Habana; Morne Steyn; Fourie du Preez; Pierre Spies; Schalk Burger; Heinrich Brussow; Victor Matfield; Danie Rossouw; Jannie du Plessis; John Smit (capten) a Tendai Mtawarira.

Eilyddion: Bismarck du Plessis; Gurthro Steenkamp; CJ van der Linde; Johann Muller; Willem Alberts; Francois Hougaard a Butch James.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific