British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Medi 2011, 18:00 GMT 19:00 UK
Gibbs: Gall Cymru guro'r Boks

Cymru v.De Affrica ym mis Tachwedd 2010
George North yn rhedeg yn erbyn amddiffyn De Affrica ym mis Tachwedd y llynedd

Mae un o gewri rygbi Cymru wedi dweud ei fod yn credu y dylai Cymru guro De Affrica yn eu gem yng Nghwpan y Byd ddydd Sul.

Cred Scott Gibbs fod y Springboks yn dîm sy'n dirywio, a bod cyfle i'w curo am yr eildro yn unig.

Dywedodd Gibbs wrth BBC Cymru: "Dwi'n credu fod hwn yn gyfle gwych i droi'r drol ar y penwythnos cyntaf.

"Mae mwy o rythm a momentwm ar ochr Cymru, ac yn sicr mwy o gytgord."

'Anghytuno'

De Affrica yw'r pencampwyr presennol, ac yn dal i ffefrynnau i ennill Grŵp D yng Nghwpan y Byd.

Ond dywed Gibbs, sydd bellach yn byw yn Cape Town, fod digon o dystiolaeth i awgrymu y gall tîm Warren Gatland ychwanegu at y fuddugoliaeth enwog yng Nghaerdydd yn 1999.

"Dros y 18 mis diwethaf mae De Affrica wedi bod yn dirywio, ac yn sicr ddim yn gwella," meddai.

"Rwy'n credu fod rhywfaint o anghytuno yn y garfan ac mae rhai chwaraewyr sydd ddim yn perfformio ar eu gorau.

"Felly os ydych chi'n edrych ar y wybodaeth mae'n arwain at un peth - rwy'n credu fod hwn yn gyfle gwych i Gymru."

'Argoeli'n dda'

Er hynny roedd Gibbs yn credu ei bod hi'n beryglus tanbrisio grym De Affrica, gan eu bod yn dal yn hyderus.

Ychwanegodd: "Hwn yw Cwpan y Byd wedi'r cwbl ac maen nhw'n dal yn drydydd ar restr detholion y byd ac yn medru curo Awstralia, Seland Newydd, Lloegr a Ffrainc ar eu gorau.

"Dyma gêm y penwythnos heb os, ac os all Cymru greu sioc yn erbyn y Boks, yna mae'n argoeli'n dda am weddill y gystadleuaeth."

Wedi'r gêm yn erbyn De Affrica yn Wellington ddydd Sul, bydd Cymru yn wynebu Samoa, Fiji a Namibia, gyda'r ddau dîm uchaf yn y grŵp yn mynd ymlaen i rownd yr wyth olaf.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific