British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Medi 2011, 16:46 GMT 17:46 UK
Car i lawr o gopa'r Wyddfa

Y car yn cael ei gludo i lawr
Cafodd y car ei gludo i lawr y mynydd ar y trn bach

Mae car 4X4 gafodd ei yrru i gopa'r Wyddfa gan ddyn o Sir Gaerloyw cyn mynd yn sownd yno wedi cael ei gludo i lawr y mynydd.

Dywedodd Craig Williams, 39 oed, fod y weithred ar frig ei restr o 50 o bethau i'w gwneud cyn marw.

Cafodd y car ei gludo i lawr gan Drên Bach yr Wyddfa ddydd Iau.

Mae Mr Williams yn wynebu cyhuddiadau o yrru ar dir comin neu rostir.

Pryder

Cafodd y car ei adael yn agos i'r copa ddydd Sadwrn, ac mae tywydd drwg ers hynny wedi rhwystro ymdrechion i'w symud.

Roedd rhywrai wedi torri mewn i'r car yn y cyfamser, ac roedd pryder y gallai rhywun ollwng y brêc.

Fe gymrodd hi dair awr i lwytho'r car ar wagen arbennig oedd yn rhan o'r trên.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

"Mae'r Parc yn falch bod y cerbyd a yrrwyd tuag at gopa'r Wyddfa bellach wedi cyrraedd yn ôl i waelod y mynydd a bod peryglon y weithred a'r oblygiadau amgylcheddol wedi cael eu hamlygu'n glir dros y dyddiau diwethaf.

"Mae'r cerbyd ar hyn o bryd dan ofal Cwmni Rheilffordd yr Wyddfa a deallir bod y mater yn parhau i fod yn nwylo'r heddlu."

Mewn cyfweliad gyda'r BBC mae Mr Williams wedi cyfadde' fod y weithred yn un "anhygoel o dwp" ac na ddylai neb arall geisio'i efelychu.

Mae Mr Williams wedi ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn ymddangos gerbron ynadon Caernarfon ar Fedi 16.



HEFYD
Dirgelwch car Yr Wyddfa
04 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific