British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Medi 2011, 14:25 GMT 15:25 UK
Yr Urdd yn ystyried cau'r swyddfa yn Aberystwyth

Mae'n ymddangos bod dyfodol Swyddfa'r Urdd yn Aberystwyth yn ansicr, yn ôl gwybodaeth ddaeth i law Taro'r Post BBC Radio Cymru.

Mewn llythyr mewnol mae pwyllgor gwaith y mudiad yn cefnogi argymhelliad i gau eu swyddfa yn Aberystwyth ac ail-leoli staff naill ai yn Llangrannog neu Lan-llyn.

Deellir mai ystyriaethau ariannol sydd wrth wraidd yr argymhelliad.

Mae'r llythyr yn dweud bod rhaid "ystyried opsiynau i arbed costau".

Y gred yw y byddai cau'r swyddfa yn Aberystwyth yn arbed £250,000 dros gyfnod o 10 mlynedd.

Mae'r llythyr yn gwahodd ymateb aelodau'r bwrdd busnes i'r argymhelliad, gan ddweud bod angen penderfyniad erbyn diwedd y mis.

Pe bai penderfyniad o blaid cau, mae'r mudiad yn rhagweld y byddai hynny'n digwydd o fewn 12 mis.

"Rydan ni wedi trio bod yn gyfrifol drwy edrych ar ein holl gostau ac mae hyn yn wir ar draws y mudiad i gyd," meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, ar raglen Taro'r Post ddydd Iau.

"Rydan ni wedi penderfynu trio blaenoriaeth ein gwasanaethau i'n haelodau ni, sef ein darpariaeth yn ein gwersylloedd a'n gweithgareddau cymunol, ac wrth gwrs ein Heisteddfod.

"Fel rhan o hynny, rydym nawr yn gwneud yr argymhelliad bod y staff sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn ein swyddfa yn Aberystwyth yn cael eu hadleoli i unai Gwersyll Llangrannog neu Wersyll Glan-llyn, sy'n ganolfannau pwysig iawn i'r mudiad eisoes."

Ar un cyfnod roedd pencadlys yr Urdd yn Aberystwyth.

Fe symudodd y staff i swyddfa arall yn y dre yn ystod y blynyddoedd diwethaf.



HEFYD
Cyhoeddi safle Prifwyl Urdd
03 Maw 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific