British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Medi 2011, 16:03 GMT 17:03 UK
'Opera sebon' ar strydoedd Wrecsam

Aelodau o gwmni Opera Cenedlaethol Cymru yng nghartref gofal Bryn Bella yn Wrecsam
Bu cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn gweithio gyda thrigolion cartref gofal

Mae cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn gweithio gyda phobl Wrecsam i greu 'opera sebon' newydd.

Amcan y prosiect newydd, Nine Stories High, yw creu naw stori fydd yn dod at ei gilydd i ffurfio opera am dref a phobl Wrecsam.

Bydd y cwmni opera yn gweithio gyda gwahanol grwpiau yn y dref er mwyn creu'r opera.

Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf, gyda thrigolion cartref gofal yn Wrecsam, wythnos yma.

Dylanwad

Bu Alan Harris, libretydd gydag Opera Cenedlaethol Cymru, yn ymweld â chartref Bryn Bella gyda'i dîm camera.

"Roeddwn am i'r trigolion siarad am ddiwrnodau wnaeth ddylanwadu ar eu bywydau ac am eu hatgofion o Wrecsam," dywedodd Alan.

Ymysg y bobl wnaeth rannu eu hatgofion oedd Christine Jones.

Roedd hi'n cofio priodi plismon y pentref 50 mlynedd yn ôl a phob un o drigolion y pentref yn dod i wylio.

Doedd gan Christine a'i gwr newydd ddim arian ar gyfer mis mel ond wedi'r briodas cofiodd ffrind i'w rhieni yn rhoi amlen iddi.

Yn yr amlen roedd yna allwedd a oedd yn agor carafán yn Blackpool a roddodd cyfle i'r pâr ifanc gael gwyliau wedi'r cyfan.

'Camsyniadau'

Wrecsam
Bydd yr opera gorffenedig yn cael ei berfformio ar strydoedd Wrecsam

Dywedodd Alan: "O'r straeon yma heddiw, byddaf yn ysgrifennu libreto pum munud fydd yn cael ei osod i gerddoriaeth gan gyfansoddwr erbyn mis nesaf."

Bydd y cwmni opera yn ymweld â nifer o leoliadau eraill yn nhref Wrecsam dros y misoedd nesaf, gan gynnwys y farchnad dan do a'r neuadd bingo.

Un o fwriadau'r prosiect, yn ôl cynhyrchydd Claire Cressey, yw ceisio cael gwared â rai o'r camsyniadau am opera.

"Mae pobl yn meddwl nad yw iddyn nhw, ei bod yn ymwneud â byd pell sydd ddim i'w wneud â'u bywydau nhw," dywedodd.

"Dwi'n credu bydd syndod mawr pan mae pobl yn sylweddoli mor debyg yw opera i opera sebon ar y teledu, sydd mor gyfarwydd i gymaint o bobl."

Bydd penodau eraill yr opera yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf a bydd yr opera orffenedig yn cael ei pherfformio ar strydoedd y dref ym Mai 2012.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific