British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Medi 2011, 06:05 GMT 07:05 UK
Marwolaeth cefnogwr: Rhyddhau chwech

Mike Dye
Fe geisiodd parafeddygon adfywio Mike Dye y tu allan i'r stadiwm

Mae Heddlu Llundain sy'n ymchwilio i farwolaeth cefnogwr tîm pêl-droed Cymru wedi rhyddhau chwech o bobl ar fechnïaeth.

Yr Adran Achosion Lladd a Throseddau Difrifol sy'n ymchwilio.

Dywedodd llefarydd y byddai'r chwech, pedwar o ogledd Cymru a dau o dde ddwyrain Cymru ond yn byw yn Lloegr erbyn hyn, yn cael eu holi eto fis Tachwedd.

Cafodd Michael Dye, 44 oed o Gaerdydd, anafiadau i'w ben y tu allan i Stadiwm Wembley cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr nos Fawrth.

Aed ag e i'r ysbyty ac roedd wedi cael trawiad ar y galon. Bu farw yno yn ddiweddarach.

Mae'r chwech sydd wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth yn eu dauddegau hwyr a'u pedwardegau cynnar.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i aros am ganlyniadau llawn archwiliad post mortem.

Mae'r heddlu hefyd wedi apelio am dystion i'r ymosodiad ger y fynedfa i mewn i'r stadiwm.

Teyrngedau

Fe gafodd Mr Dye ei anafu tua 7.20pm, 25 munud cyn dechrau'r gêm.

Cafodd tyrngedau eu gadael tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd
Cafodd tyrngedau eu gadael tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd

Bu farw yn yr ysbyty tua 8.50pm.

Y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd mae cyfeillion a chefnogwyr y tîm wedi bod yn gadael teyrngedau iddo.

Cafodd teyrngedau hefyd eu gosod y tu allan i hen stadiwm Caerdydd, Parc Ninian.

Mae ystafell ymchwilio wedi ei sefydlu yng ngorsaf heddlu Hendon.

"Hoffwn apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r hyn ddigwyddodd i gysylltu gyda ni," meddai'r Ditectif Uwch Arolygydd Sheila Stewart.

"Fe ddigwyddodd y tu allan i'r Stadiwm ger mynedfa C."

Mae modd ffonio'r ystafell ymchwilio ar 020 8358 0100 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.



HEFYD
Dal i ymchwilio i farwolaeth cefnogwr
07 Medi 11 |  Newyddion
Ymchwilio i farwolaeth
07 Medi 11 |  Newyddion
Lloegr 1 - 0 Cymru
06 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific