British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Medi 2011, 21:16 GMT 22:16 UK
Heddlu yn dal i ymchwilio i farwolaeth cefnogwr Cymru

Mike Dye
Fe geisiodd parafeddygon adfywio Mike Dye y tu allan i'r stadiwm

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth un o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru yn dal i holi chwech o bobl.

Cafodd Michael Dye, 44 oed o Gaerdydd, ei anafu y tu allan i Stadiwm Wembley cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr nos Fawrth.

Aed â Mr Dye i'r ysbyty gydag anafiadau i'w ben ac roedd wedi cael trawiad ar y galon.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad ger y fynedfa i mewn i'r stadiwm.

Ychwanegodd yr heddlu bod 'na "lawer" allai eu helpu.

Credir bod y chwech sydd wedi eu harestio yn gefnogwyr Cymru.

Teyrngedau

Maen nhw'n cael eu holi mewn gorsafoedd heddlu yng ngogledd Llundain gan swyddogion Adran Achosion Lladd a Throseddau Difrifol Heddlu Llundain.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Scotland Yard bod ymholiadau yn parhau i "ganfod achos llawn yr hyn a ddigwyddodd".

Fe gafodd Mr Dye ei anafu tua 7.20pm, 25 munud cyn dechrau'r gêm.

Cafodd tyrngedau eu gadael tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd
Cafodd tyrngedau eu gadael tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd

Bu farw yn yr ysbyty tua 8.50pm.

Yn ystod dydd Mercher mae teyrngedau wedi eu rhoi i Mr Dye, un o gefnogwyr Yr Adar Gleision.

Y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd mae cyfeillion a chefnogwyr y tîm wedi bod yn gadael teyrngedau iddo.

Mae 'na dudalen ar wefan Facebook ac mae ei gyd-weithwyr yng Nghyngor Sir a Dinas Caerdydd wedi dweud eu bod wedi dychryn o glywed y newyddion am ei farwolaeth.

Roedd yn gweithio fel saer maen i'r cyngor.

"Mae staff yr awdurdod wedi dychryn o golli cyd-weithiwr a chyfaill a roddodd bron i 20 mlynedd o wasanaeth da i'r cyngor mewn maes arbenigol iawn," meddai Jon House, Prif Weithredwr y Cyngor.

"Mae'n meddyliau gyda'i deulu ar adeg drasig iawn.

"Fe fyddwn yn cynnig cefnogaeth i'w deulu ac i'w gyd-weithwyr."

'Cwmwl du'

Dywedodd Gethin Jenkins, Prif Weithredwr clwb Dinas Caerdydd, eu bod fel clwb yn cyd-ymdeimlo gyda theulu Mr Dye, a oedd yn cael ei adnabod fel Mikey.

"Roedd yn gefnogwr brwdfrydig o'r clwb am flynyddoedd.

"Mae ei farwolaeth yn hynod o drasig o fewn ein cymuned bêl-droed."

Ychwanegodd ei fod yn dilyn y clwb i bob cwr o'r wlad.

Fe ychwanegodd Trevor Lloyd Hughes, is-lywydd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, eu bod yn cydymdeimlo a theulu Mr Dye.

"Mae 'na gwmwl du dros bêl-droed yng Nghymru," meddai.

Mae ystafell ymchwilio i'r hyn a ddigwydd wedi ei sefydlu yng ngorsaf heddlu Hendon.

"Hoffwn apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r hyn ddigwyddodd ac arweiniodd at farwolaeth Mr Dye i gysylltu gyda ni," meddai'r Ditectif Uwch Arolygydd Sheila Stewart.

"Fe ddigwyddodd y tu allan i'r Stadiwm ger mynedfa C.

"Yn naturiol roedd hi'n brysur a dwi'n siwr bod 'na lawer a allai helpu gyda'n ymchwiliad."

Roedd disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal brynhawn Mercher.

Gellir cysylltu yn uniongyrchol gyda'r ystafell ymchwilio ar 020 8358 0100 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.



HEFYD
Ymchwilio i lofruddiaeth
07 Medi 11 |  Newyddion
Lloegr 1 - 0 Cymru
06 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific