British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Medi 2011, 06:09 GMT 07:09 UK
Plaid Cymru: Mwy o sylw i faterion mewnol?

John Stevenson
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Logo Plaid Cymru
Fe fydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn Llandudno

"Does 'na ddim argyfwng ond mae 'na frys."

Dyna oedd dadansoddiad prif weithredwraig newydd Plaid Cymru o gyflwr ei phlaid wedi'r grasfa gawson nhw yn Etholiad y Cynulliad fis Mai.

Ieuan Wyn Jones
Dyma fydd cynhadledd olaf Ieuan Wyn Jones fel arweinydd

Roedd Rhuanedd Richards wedi gweithio yn y Llywodraeth Glymblaid fel Ymgynghorydd Arbennig i'r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones ac mae'n ddiddorol sylwi mae hi fydd yn traddodi'r araith olaf yng nghynhadledd Plaid Cymru'r penwythnos hwn.

Awgrym o bosibl fod Plaid Cymru am ganolbwyntio yn y tymor byr o leiaf, ar faterion mewnol megis strwythurau a saernïo polisïau ar gyfer gosod y sylfeini ar gyfer 2015?

Cwta chwe mis yn ôl, wythnosau cyn yr etholiadau am y Cynulliad, roedd hi'n stori wahanol.

Wythnosau ynghynt, roedd yr ymgyrch Ie wedi llwyddo i ennill y Refferendwm ar bwerau'r Cynulliad ac mi roedd Plaid Cymru yn mynnu llawer o'r clod am hynny.

Gwrthblaid

Roedd yr awyrgylch yng nghynhadledd wanwyn y Blaid yn drydanol gyda'r arweinydd yn darogan bod Cymru wedi cyrraedd croesffordd.

A do ym mis Mai, mi wnaeth yr etholwyr ddewis.

Rhuanedd Richards
Ym mis Medi y cychwynnodd Rhuanedd Richards ar ei swydd newydd

O fod yn blaid lywodraethol, daeth Plaid Cymru yn un o'r gwrthbleidiau a hynny ar gynffon y Ceidwadwyr.

Fel y dywed Chris Mullin, y gwleidydd Llafur sydd newydd gyhoeddi ei ddyddiaduron, am ei blaid ym Mai 1997: "Mae'n rhyfedd iawn dod yn gyfarwydd ag amgylchiadau newydd".

Cyd-destun Cynhadledd Plaid Cymru yw bod Ieuan Wyn Jones ar fin ildio'r awenau a bod gornest ymlaen am yr arweinyddiaeth.

Mi fydd Llandudno felly yn gyfle i'r darpar ymgeiswyr ddangos tipyn o ffêr yn y sioe ffasiwn wleidyddol.

Mi fydd na wrando astud ar yr hyn fydd gan Llŷr Huws Gruffydd ac Elin Jones i'w ddweud er mai Elin Jones a Dafydd Elis Thomas ydi'r unig ddau i ddweud neu awgrymu eu bod nhw yn ymgeiswyr.

Pynciau trafod

Y disgwyl yw y gall hynny newid. A welwn ni Simon Thomas a Llyr Hughes Gruffydd yn ymuno yn y ras?

Mae 'na rai yn pryderu y gall canolbwyntio'n ormodol ar yr hyn sydd wedi digwydd, dynnu sylw oddi ar yr hyn sydd angen ei wneud.

Fel ym mhob cynhadledd wleidyddol, mae 'na amrywiaeth o bynciau yn cael eu hystyried yn Llandudno.

Bore Gwener er enghraifft, darlledu yng Nghymru a thai fforddiadwy fydd yn cael y sylw.

Ddydd Gwener hefyd fydd araith olaf Ieuan Wyn Jones fel arweinydd.

Elin Jones
Fe gyhoeddodd Elin Jones ei bwriad i ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid

Ddydd Sadwrn fe fydd yna sylw i Ynni niwclear ac adnewyddol ac annibyniaeth i Gymru o fewn Ewrop.

Fe fydd yna hefyd areithiau gan Dafydd Wigley ac Elfyn Llwyd.

Fe ellid dadlau mae un o areithiau pwysicaf yn Llandudno fydd honno ar y cychwyn, araith fydd yn dilyn Llŷr Huws Gruffydd, araith Humza Yousaf sy'n aelod o Senedd Yr Alban.

Bu cyn drafod am y gwahaniaeth rhwng llwyddiant Plaid yr SNP dan Alex Salmond yn Yr Alban o'i gymharu â methiant Plaid Cymru dan Ieuan Wyn Jones yma yng Nghymru.

Llwyddodd yr SNP i elwa yn etholiadau mis Mai o fod wedi bod yn blaid lywodraethol.

Ond methodd Plaid Cymru a'r cwestiwn ydi pam?

Humza Yousaf fydd yn cynnig rhai o'r atebion gan mae fo fydd yn cynrychioli'r SNP yn Llandudno.

"Achub, Adfer ac Adnewyddu" oedd teitl papur trafod am yr economi gafodd ei gyhoeddi gan Plaid Cymru.

Oni fyddai hynny yn slogan briodol i Gynhadledd Plaid Cymru yn Llandudno 2011?



HEFYD
Elin Jones yn y ras i arwain Plaid
01 Medi 11 |  Newyddion
Ieuan Wyn Jones i sefyll i lawr
13 Mai 11 |  Newyddion
Ergyd i Blaid Cymru
06 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific