British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Medi 2011, 06:40 GMT 07:40 UK
Lle i gynnig cymorth i rai dibyniaeth

'Stafell Fyw Caerdydd

Fe fydd 'Stafell Fyw Caerdydd yn agor ei drws am y tro cynta.

Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill sy'n gyfrifol am sefydlu'r elusen gyda'r nod o roi cymorth i unrhyw un sy'n cael problemau gydag alcohol, cyffuriau neu unrhyw ddibyniaeth arall.

Y gobaith yw y bydd tua 200 o bobl yn gallu manteisio ar y gwasanaeth newydd.

Mae'r cysyniad yn un newydd gyda'r pwyslais ar adferiad yn hytrach na rheoli'r ddibyniaeth yn unig.

Yn ardal Y Rhath o'r brifddinas y mae'r adeilad.

Dywed Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, bod y model adferiad yn gwahaniaethu o'r model meddygol.

'Proses o newid'

"Mae 'na bwyslais ar hunanymrymuso, gan adeiladu ar gryfderau ac asedau, y hytrach na chanolbwyntio ar wendidau a diffygion.

"Peth arwyddocaol arall ydi cefnogaeth sy'n seiliedig ar gyfoedion a chyfranogiad teulu a ffrindiau wrth helpu pobl adeiladu bywydau ystyrlon a gwerthfawr, gwireddu eu dyheadau a chyfrannu'n bositif at gymdeithas.

"Pa bynnag fodel neu ddull a ddefnyddir i 'drin' problemau dibyniaeth, sy'n gyflwr cronig, mae'n bwysig fod pobl yn cael eu cefnogi drwy'r broses o newid ac yn cael eu darparu â chefnogaeth 'ôl-ofal' parhaol, oherwydd heb yr elfen hanfodol yma mae pobl yn agored lithro'n ôl i'w gwaeledd."

Ychwanegodd bod y ganolfan yn bwriadu gweithio ochr yn ochr â darparwyr gwasanaeth eraill yn yr ardal i wneud newidiadau positif i fywydau.

Fe fydd 'Stafell Fyw Caerdydd-Living Room Cardiff yn agor ei drysau am y tro cyntaf o 4pm-7.30pm ddydd Iau Medi 8.



HEFYD
Cn i gynnig cymorth
02 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific