British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Medi 2011, 19:46 GMT 20:46 UK
Ailagor theatr ar newydd wedd

Ail-agor theatr yn Y Drenewydd

Cafodd theatr ei hailagor nos Fercher wedi cynllun ailwampio gwerth £900,000.

Mae hyn yn golygu y gall Hafren, Theatr Hafren gynt, yn Y Drenewydd, gynnal mwy o sioeau o fathau gwahanol.

Fe gafodd rhan fwyaf arian Cyngor Powys ei gwario ar dŵr newydd fydd yn cynorthwyo gyda goleuo a symud rhannau'r set.

Mae'r awdurdod wedi amddiffyn y gwario wedi i theatr mewn addysg yn Llandrindod gau ym mis Ebrill.

Archwiliad

Mae'r gwaith yn Hafren wedi cynnwys gwelliannau i'r bar a swyddfa docynnau newydd fydd yn dderbynfa ar gyfer y coleg addysg bellach.

Ar yr un pryd, mae'r coleg wedi gwario £200,000 ar wella eu hadnoddau.

Dywedodd Cyngor Powys fod angen y gwelliannau ar Hafren gan na fyddai'r hen sustem gwifrau a thechnegol yn cwrdd â gofynion archwiliad yswiriant.

Dywedodd Prif Weinyddwr Hafren, Sarah Clutton, fod y theatr y denu twristiaid ac yn darparu gwasanaeth hanfodol i ysgolion a bod fod rhaid "cael rhywbeth i bobl ei wneud yn yr ardal gyda'r nos."

'Uchelgeisiol'

Dywedodd y Cynghorydd Wynne Jones ei fod yn falch fod yr awdurdod wedi penderfynu gwario'r arian ar Hafren, un o dair prif ganolfan y celfyddydau yn y sir ynghyd â Theatr Brycheiniog a Chanolfan Gelfyddydau Glannau Gwy yn Rhaeadr.

"Mae'r datblygiad yn golygu y gall Hafren gynnal sioe llawer mwy uchelgeisiol nag yn y gorffennol," meddai, "gan wasanaethu cynulleidfa ehangach gyda gwasanaeth gwell.

"Rydym wedi parhau gyda'n buddsoddiad refeniw i'r celfyddydau."

Nos Fercher bydd perfformiad o'r opera Madame Butterfly gan Gwmni Opera Canolbarth Cymru.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific