British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Medi 2011, 08:59 GMT 09:59 UK
Stephen Jones allan o'r gm gyntaf

Stephen Jones
Mae Stephen Jones wedi ennill 100 o gapiau i'w wlad

Mae Adran Chwaraeon BBC Cymru yn deall na fydd Stephen Jones yn holliach i wynebu De Affrica yng ngêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ddydd Sul.

Ni wnaeth maswr y Llewod chwarae yn y gemau paratoadol yn ystod mis Awst oherwydd anaf i'w goes a deellir nad yw wedi gwella.

Y dewisiadau posib eraill i Gymru yw James Hook a Rhys Priestland.

Dywedodd Priestland: "Mae'n anffodus beth sydd wedi digwydd i Stephen.

"Ond James Hook yw un o'n chwaraewyr gorau ac, wrth edrych arno'n ymarfer, rhaid dweud fod ganddo dalent arbennig.

"Dwi ddim yn gwybod beth fydd penderfyniad y dewiswyr - y cyfan alla i wneud yw hyn, gwneud fy ngorau wrth ymarfer a gobeithio am y gorau."

Anaf i'w goes

Mae Jones yn gyfartal gyda Gareth Thomas o ran y nifer fwyaf o gapiau dros ei wlad - y ddau wedi ennill 100 o gapiau.

Ond ym marn dau o gyn-gapteiniaid Cymru - Jonathan Davies a Robert Jones - ni ddylai Jones chwarae beth bynnag gan nad yw wedi chwarae ers cyhyd.

Nid Stephen Jones yw unig bryder dewiswyr Cymru. Mae Ryan Jones hefyd wedi cael anaf i'w goes, ac maen nhw eisoes wedi cadarnhau na fydd Gethin Jenkins ar gael i wynebu De Affrica gydag anaf tebyg.

Amheuaeth

Mae Warren Gatland yn hyderus y bydd y tri ar gael i wynebu Samoa yn ail gêm Cymru yng Nghwpan Y Byd ar Fedi 18.

Yn y cyfamser, mae gan Dde Affrica broblemau gydag anafiadau.

Eisoes mae Juan Smith yn gwybod na fydd yn chwarae yn y gystadleuaeth o gwbl ac mae amheuaeth a fydd y chwaraewr ail-reng Bakkies Botha ar gael i wynebu Cymru.

Mae disgwyl i Gatland a hyfforddwr De Affrica, Peter De Villiers, gyhoeddi eu timau ddydd Gwener.



HEFYD
Rygbi: Anafiadau i'r ddau dm
06 Medi 11 |  Newyddion
Carwyn Jones yn mynd i Seland Newydd
05 Medi 11 |  Newyddion
Cymru yn cyrraedd Seland Newydd
02 Medi 11 |  Newyddion
Rees ddim ar gael am 10 wythnos
25 Awst 11 |  Newyddion
Jones ddim yn ystyried ymddeol
24 Awst 11 |  Newyddion
Enwi Warburton yn gapten
22 Awst 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific