British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Medi 2011, 06:41 GMT 07:41 UK
Cymry'n dawnsio

Alex Jones
Bydd y Gymraes Alex Jones ymhlith y cystadleuwyr

Bydd tri o bobl sydd â chysylltiad â Chymru yn cystadlu yn y gyfres newydd o Strictly Come Dancing fydd yn dechrau nos Sadwrn ar BBC1.

Cyflwynwraig The One Show, Alex Jones, fydd yr unig Gymraes ar y sioe.

Cafodd y rhestr o gystadleuwyr ei gyhoeddi ar y rhaglen nos Fawrth.

Cymro arall fydd yn dawnsio yw'r cyn bel-droediwr Robbie Savage o Wrecsam.

Mae Savage bellach yn sylwebydd pêl-droed gyda'r BBC.

Yn cwblhau'r drindod mae'r seryddwr ac actor Russell Grant, sydd wedi byw yn ardal Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd ers rhai blynyddoedd.

Bydd y dawnswyr yn cael eu gweld am y tro cyntaf nos Sadwrn, ac fe fydd y gystadleuaeth yn parhau tan fis Rhagfyr.

Fel rhan o'r gyfres eleni, bydd un rhifyn yn cael ei gynnal yn Arena Wembley er budd elusen Plant Mewn Angen.

Y gweddill

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Blackpool.

Gweddill y sêr yn y gyfres fydd :

• Y cantorion Lulu, Holly Valance, Harry Judd a Jason Donovan;

• Yr actorion Anita Dobson a Chelsee Healey;

• Y comedïwr Rory Bremner;

• Y cyflwynydd chwaraeon Daniel Lobb;

• Y cyn aelod seneddol Edwina Currie;

• Cyn bartner Sven Goran Eriksson (cyn rheolwr pêl-droed Lloegr), Nancy Dell'Olio;

• Y bocsiwr Audley Harrison.

Cafodd y rownd derfynol y llynedd ei gwylio gan 14.28 miliwn o bobl, a bu 11.18m yn gwylio bob wythnos ar gyfartaledd.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific