British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Medi 2011, 10:36 GMT 11:36 UK
Ymchwilio i farwolaeth cefnogwr

Heddlu ger y digwyddiad yn Wembley
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 7.20pm

Bu farw un o gefnogwyr pêl-droed Cymru cyn y gêm yn Wembley nos Fawrth.

Mae Adran Achosion Lladd a Throseddau Difrifol Heddlu Llundain wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i farwolaeth Michael Dye, 44 oed o Gaerdydd.

Aed â Mr Dye i'r ysbyty gydag anafiadau i'w ben ac roedd wedi cael trawiad ar y galon.

Bu farw yn yr ysbyty ychydig cyn 9pm nos Fawrth.

Roedd yn cefnogi tîm Caerdydd ac yn gyfrannwr cyson i un o wefannau cefnogwyr y clwb, ac roedd yn gweithio i Gyngor Dinas Caerdydd.

Cafodd chwech o bobl - y credir eu bod i gyd yn gefnogwyr Cymru - eu harestio ac nid yw'r heddlu yn credu bod cefnogwyr Lloegr yn rhan o'r digwyddiad.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal ger y stadiwm am 7.20pm wedi adroddiad am ymosodiad cyn i'r gem ddechrau.

'Ymdrechion sylweddol'

Mike Dye
Fe geisiodd parafeddygon adfywio Mike Dye y tu allan i'r stadiwm

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaethau Ambiwlans Llundain: "Gallaf gadarnhau ein bod wedi cael galwad am 7.20pm ac fe wnaeth staff roi triniaeth i ddyn 44 oed oedd wedi diodde' trawiad.

"Bu ymdrechion sylweddol i adfywio'r dyn ac fe'i cludwyd i'r ysbyty."

Ychwanegodd y llefarydd fod staff wedi cyrraedd o fewn tair munud.

Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yn y man.

Dywedodd tyst, Olli Ayton: "Welais i ddim y dyn yn disgyn ond, wrth i mi droi, roeddwn i'n gwybod ei fod yn anymwybodol.

"Doedd hi ddim yn ymddangos fod unrhyw ymladd wedi bod. Alla i ddim cadarnhau hyn ond doedd dim sŵn mawr na gweiddi.

"Pan adawais i'r gêm roedd llawer o heddlu o gwmpas ac roedd yr ardal honno wedi ei chau."

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd, Jon House: "Mae staff yr awdurdod yn drist iawn o glywed am golli cydweithiwr a chyfaill roddodd bron 20 mlynedd o wasanaeth da i'r cyngor mewn gwasanaeth arbenigol iawn.

'Cwmwl'

Stadiwm Dinas Caerdydd
Cafodd teyrngedau eu gadael y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Mercher

"Mae ein meddyliau ni gyda'i deulu ar yr adeg drasig hon, ac fe fyddwn yn cynnig cefnogaeth i'w deulu a'i gydweithwyr."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wedi mynegi cydymdeimlad â'r teulu, gan ychwanegu nad oedden nhw am ddweud mwy gan fod ymchwiliad yr heddlu wedi dechrau.

Ond dywedodd yr is-lywydd, Trefor Lloyd Hughes, wrth BBC Radio Cymru: "Mae cwmwl du wedi disgyn dros bêl-droed Cymru."



HEFYD
Lloegr 1 - 0 Cymru
06 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific