Mae 'na amheuaeth am ffitrwydd y maswr Stephen Jones
|
Mae Cymru a De Affrica yn wynebu problemau ffitrwydd ar gyfer eu gêm gyntaf yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn Wellington, Seland Newydd ddydd Sul. Aros i glywed y mae Warren Gatland am gyflwr y maswr Stephen Jones a'r blaenwr Ryan Jones cyn enwi'r tîm i wynebu'r Sprinkboks. Eisoes mae Gatland yn gwybod na fydd y prop Gethin Jenkins ar gael. Dydd Mawrth dywedodd hyfforddwr De Affrica, Peter de Villiers, ei fod hefyd yn oedi am 24 awr cyn enwi ei dîm oherwydd anafiadau. Mae 'na bosibilrwydd y bydd y clo profiadol Bakkies Botha allan gydag anaf i'w droed. Pe na bai Botha ar gael, yna mae disgwyl i Danie Rusoow gymryd ei le pan fydd de Villiers yn enwi ei dîm ddydd Gwener. Mae Cymru a De Affrica yn wynebu ei gilydd yng ngêm gyntaf Grŵp D, grŵp sydd hefyd yn cynnwys Fiji, Samoa a Namibia.
|