Wayne Rooney wrth sodlau capten Cymru, Aaron Ramsey
Lloegr 1 - 0 Cymru Colli oedd hanes Cymru yn erbyn Lloegr yn Wembley nos Fawrth, er gwaethaf perfformiad calonogol gan dîm Gary Speed. Aeth Lloegr ar y blaen ar ôl rhediad da i lawr yr asgell dde gan Stewart Downing, a gafodd y gorau ar Joe Ledley, ac fe lwyddodd i groesi'r bêl i Ashley Young a ergydiodd i'r rhwyd o 10 llath wedi 35 munud. Cafwyd cyfle i Gymru wedi rhediad a chroesiad o'r radd flaenaf gan Aaron Ramsey, ond methodd Joe Ledley â'i chyrraedd. Daeth cyfle gorau Cymru yn y gêm wedi 76 munud pan beniodd Darcy Blake y bêl i'r eilydd Robert Earnshaw wrth y postyn pellaf, a chyda'r gôl yn wag o'i flaen fe wnaeth e godi'r bêl dros y bar pan roedd yn haws o lawer i sgorio. Parhaodd y Cymry i gynyddu'r pwysau, ac fe orfododd Chris Gunter arbediad arbennig gan Joe Hart gyda 10 munud yn weddill, ond yn ôl y dyfarnwr roedd y Cymro wedi troseddu beth bynnag. Mae'r fuddugoliaeth i Loegr yn rhoi tîm Fabio Capello o fewn dim i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2012, gydag un pwynt yn unig yn angenrheidiol o'r gêm olaf. O ran Cymru, fe fydd y perfformiad hwn, ynghyd â'r fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Montenegro nos Wener yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yn dod â hyder o'r newydd i'r tîm. Mae Lloegr yn arwain grŵp G tra bod Cymru, gyda thri phwynt ar ôl un fuddugoliaeth, ar y gwaelod. 'Yn falch iawn' Dywedodd Gary Speed ar ôl y gêm: "Dwi'n falch iawn o'r chwaraewyr. "Roedden ni'n edrych yn gyffyrddus gyda'r bêl a ro'n ni'n anlwcus i beidio â chael canlyniad". Doedd Craig Bellamy (Lerpwl) a David Vaughan (Sunderland) ddim ar gael oherwydd eu bod wedi eu gwahardd. Ond roedd Jack Collison (West Ham) yn holliach ac wedi chwarae ei gêm gyntaf gystadleuol dros ei wlad. Aaron Ramsey (Arsenal) oedd capten Cymru. "Hwn yw breuddwyd pob bachgen ifanc, mae bod yn gapten yn anrhydedd mawr," meddai cyn y gêm.
Ashley Young ar ôl rhoi Lloegr ar y blaen
|