Plant yn dysgu yn yr awyr agored
|
Mae ysgolion Cymru yn cael eu hannog i wneud gwell defnydd o'r awyr agored er mwyn addysgu plant ifanc. Yn ôl adroddiad gan Estyn, y corff sy'n arolygu ysgolion, dydi ysgolion ddim yn elwa'n llawn ar hyn o bryd. Dywed yr adroddiad bod plant o dan bump oed yn dysgu'n well ac yn datblygu'n gynt gyda gwersi yn yr awyr agored. Ond mae'n nodi nad yw athrawon sy'n dysgu'r Cyfnod Sylfaen yn manteisio ar y cyfleodd yn yr awyr agored i ddatblygu darllen ac ysgrifennu plant, datblygu'r Gymraeg, creadigrwydd a sgiliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Dywedodd Undeb NUT Cymru eu bod yn synnu o ddarllen yr adroddiad gan fod eu haelodau wedi derbyn y syniad. Mae'r Cyfnod Sylfaen, cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar, wedi cael ei ehangu yn raddol ers 2008. Ehangu'r dysgu Mae'r syniad yn deillio o Sgandinafia lle mae plant yn rhydd i ddysgu drwy chwarae yn hytrach na dysgu mewn modd mwy ffrufiol. Mae'n caniatáu disgyblion i ddefnyddio eu dychymyg ac mae 'na un athro ar gyfer pob wyth plentyn. O fis Medi ymlaen bydd yn cael ei ddefnyddio i ddysgu plant o dair oed i saith oed mewn ysgolion a methrinfeydd. Dywed yr
adroddiad
bod profiadau plant yn gwella o fod yn yr awyr agored. "Yn y rhan fwyaf o achosion, mae plant yn mwynhau dysgu yn yr awyr agored, gan ddyfalbarhau â thasgau am gyfnodau hwy a dangos mwy o frwdfrydedd i roi cynnig ar bethau newydd," meddai. Yn ôl un o'r arolygwyr, Bev Jenkins, mae 'na enghreifftiau o blant sy'n dawel ac yn swil yn y dosbarth ond sydd llawer mwy bywiog y tu allan i'r ystafell ddosbarth. "Maen nhw'n teimlo'n fwy rhydd," meddai. "Mae'n braf gweld bechgyn, sydd ddim yn fodlon mynd i'r gornel yn y dosbarth i ddarllen yn darllen yn yr awyr agored." 'Datblygu gwybodaeth a gallu' Dywed yr adroddiad bod "profiadau dysgu yn yr awyr agored y plant yn 'dda' neu'n 'well' mewn dwy o bob tair o'r sesiynau a arsylwyd gan arolygwyr". Ond doedd staff ddim mor effeithiol ar arsylwi mewn gwersi awyr agored ag yr oedden nhw yn y dosbarth. Dywedodd Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn, bod rhaid bod yn fwy ymarferol a hyderus drwy ddysgu yn yr awyr agored i ddatblygu gwybodaeth a gallu plant. "Yn gyffredinol, mae plant yn cael pleser o ddysgu yn yr awyr agored ac maen nhw'n mwynhau'r profiad cyfan." Dywedodd David Evans o NUT Cymru bod yr adroddiad yn "dipyn o syndod". "Y wybodaeth a gawn gan ein haelodau yw eu bod yn gweithio tuag at addysgu yn yr awyr agored yn ogystal ag yn yr ystafell ddosbarth. "Maen nhw'n eiddgar iawn am y Cyfnod Sylfaen ac yn ei weld fel modd newydd chwyldroadol o ddysgu plant ifanc." Ystyried casgliadau Ychwanegodd bod 'na broblemau pan gafodd y system newydd ei gyflwyno ond roedd hyn "o ganlyniad i ddiffyg adnoddau addas." Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod wedi ymroi i gyflwyno'r Cyfnod Sylfaen yn llawn. "Fe fyddwn ni'n ystyried casgliadau'r adroddiad yn llawn ac yn cydweithio gydag Estyn a phartneriaid eraill i ateb unrhyw bryderon." Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi croesawu'r adroddiad. Dywedodd eu bod eisiau i'r Cyfnod Sylfaen gymryd mantais o "awyr agored gwych Cymru".
|