Yn ôl yr uned, mae cyswllt rhwng ymosodiadau llosgi bwriadol a thrais domestig.
|
Bydd yr app iPhone cyntaf gan wasanaeth tân ac achub yn cael ei gyhoeddi gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Yr app dwyieithog yw'r cyntaf o'i fath i gael ei ddatblygu gan wasanaeth tân yn y Deyrnas Unedig. Y nod yw rhoi'r cyfle i bobl â phryderon ynglŷn â llosgi bwriadol a thrais domestig gael gafael ar wybodaeth berthnasol a chysylltu'n ddienw am droseddwyr. Bob blwyddyn mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cael eu galw i tua 9,566 o achosion o losgi bwriadol sy'n costio £52,804.32 y flwyddyn i drethdalwyr. 'Arloesol' Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, Y Cynghorydd Anthony Ernest, ac Andy Marles, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, eu bod yn falch mai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw'r un cyntaf i ddatblygu'r adnodd technoleg sy'n ddwyieithog.
Mae'r app ar gael yn rhad ac am ddim
|
"Mae'n rhoi cyfle i'n cymunedau ddod o hyd i help a gwybodaeth mewn modd arloesol, enghraifft arall o sut mae'r gwasanaeth yn parhau i gwrdd â gofynion y cyhoedd yn y ganrif hon." Mae Uned Troseddau Tân y gwasanaeth tân yn darganfod beth yw achosion llosgi bwriadol, lle y gall y math yma o danau ddigwydd, a helpu'r heddlu wrth iddyn nhw arestio troseddwyr. Yn ôl yr uned, mae wedi dod yn fwy amlwg fod cyswllt rhwng ymosodiadau llosgi bwriadol a thrais domestig. Mae'r uned yn gweithio'n agos iawn gydag asiantaethau partner i dargedu grwpiau penodol (Dioddefwyr Troseddau Casineb a Thrais Domestig) sydd â risg uwch o danau bwriadol a damweiniol er mwyn gwneud iddyn nhw deimlo'n fwy diogel yn eu cartrefi. 'Yn rhad ac am ddim' Dywedodd Mick Flanagan, Rheolwr Grŵp Archwilio Tân a Throseddau Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Mae hwn yn app iPhone dwyieithog, unigryw ymhlith gwasanaethau tân ac achub y DU. "Gall unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn â llosgi bwriadol a thrais domestig yn ardal De Cymru lawrlwytho'r ap yn rhad ac am ddim er mwyn cael gafael ar wybodaeth a chysylltu yn ddienw am droseddwyr." Gellir lawrlwytho'r app, Uned Troseddau Tân De Cymru, yn rhad ac am ddim.
|