Dywedodd swyddogion fod yr olew wedi dod o safle cwmni lleol
|
Mae ymchwiliad yn parhau i ddarganfod sut y llifodd disel coch i mewn i'r dŵr yn harbwr Aberystwyth dros y penwythnos. Dywedodd swyddogion fod yr olew wedi dod o safle cwmni lleol. Er bod yr olew'n drewi, mae swyddogion iechyd cyhoeddus wedi dweud nad yw'n niweidiol. Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd, fe aeth yr olew i'r harbwr drwy system draen dŵr yr ardal. Mae Cyngor Ceredigion wedi rhybuddio na ddylai neb nofio na syrffio tan i'r olew ddiflannu. Asesu Dywedodd Ged Davies, sy'n cyd-lynu ymateb yr asiantaeth, eu bod wedi cael gwybod am y broblem gan Harbwr Feistr Aberystwyth fore Sadwrn. Ers hynny mae'r asiantaeth wedi bod yn asesu effaith y llygredd. "Mae'r cyngor wedi gosod arwyddion yn rhybuddio pobol yr ardal," meddai Mr Davies. "Er bod digon o olew i achosi gwynt annifyr, dyw e ddim yn ddigon mawr i gael ei symud yn fecanyddol neu'n gorfforol. "Allwn ni ddim atal system draen y dref ond mae contractwyr arbenigol yn ceisio asesu a oes modd hidlo'r olew o'r dŵr glaw."
|