British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 5 Medi 2011, 13:28 GMT 14:28 UK
Heddlu yn rhybuddio ffermwyr

Heddlu
Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu bod lladron wedi defnyddio trelar arbennig

Mae'r heddlu'n rhybuddio ffermwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth ar ôl i ladron ddwyn 65 o ddefaid yn Sir Fôn.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu bod lladron wedi defnyddio trelar arbennig.

Roedd y lladrad yn ardal Bethel, Bodorgan, rhwng Gorffennaf 4 ac Awst 18.

"Rhaid bod gan y lladron drelar arbennig," meddai'r Cwnstabl Beth Bennett o Heddlu'r Gogledd.

"Rydan ni'n gofyn i'r gymuned amaethyddol fod ar eu gwyliadwriaeth - a chysylltu â ni os ydan nhw'n gweld y defaid."

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth ffonio'r heddlu ar 0845 6071001 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific