British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 5 Medi 2011, 06:09 GMT 07:09 UK
Carwyn Jones yn mynd i Seland Newydd

Carwyn Jones
Carwyn Jones: "Gall Cymru a Seland Newydd ddysgu cymaint gan ein gilydd"

Bydd Prif Weinidog Cymru yn hedfan i Seland Newydd i werthu'r wlad yn ystod Pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd.

Yn ystod ei ymweliad bydd Carwyn Jones yn cwrdd â gwleidyddion, hybu Cymru fel canolfan i fusnes a thwristiaeth ac ymweld â safleoedd diwylliannol.

Bydd Mr Jones hefyd yng ngêm gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth yn erbyn De Affrica ddydd Sul.

Fe fydd cofnod o gytundeb rhwng Cymru a Seland Newydd ynglŷn â'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd hefyd yn cael ei arwyddo yn ystod yr ymweliad.

Mae tîm Paralympaidd Seland Newydd yn bwriadu defnyddio Abertawe fel canolfan hyfforddi cyn y Gemau yn Llundain y flwyddyn nesaf.

Maori

Un nod arall fydd gan y Prif Weinidog yw creu cysylltiadau gyda'r gymuned Maori, ac fe fydd yn bresennol ar Ddiwrnod Cymru yn Amgueddfa Te Papa yn Wellington.

Yr economi ac amaethyddiaeth fydd dau o'r pynciau trafod pan fydd Mr Jones yn cwrdd gyda Phrif Weinidog Seland Newydd, John Key, a gweinidogion eraill o lywodraeth Seland Newydd.

Dywedodd Mr Jones fod Cwpan Rygbi'r Byd yn gyfle "i godi ein proffil rhyngwladol".

"Mae'r gwahoddiad yma gan lywodraeth Seland Newydd yn cynnig cyfle mawr i godi proffil Cymru ac i amlygu ein cenedl fel cyrchfan i dwristiaid ac fel lle i wneud busnes.

"Mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn golygu ei bod hi'n bwysicach nag erioed ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i hybu Cymru ar y llwyfan byd-eang, a chreu ein cyfleoedd ein hunain i greu cyfleoedd busnes.

"Mae gan Gymru gymaint yn gyffredin gyda Seland Newydd ac mae gennym gymaint i'w ddysgu gan ein gilydd ar nifer o faterion o ddatblygu economaidd, materion gwledig ac ieithoedd."



HEFYD
Cymru yn cyrraedd Seland Newydd
02 Medi 11 |  Newyddion
Enwi Warburton yn gapten
22 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific