British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 4 Medi 2011, 13:30 GMT 14:30 UK
Dirgelwch car Yr Wyddfa

Car wedi ei adael ar Yr Wyddfa
Cafodd y car ei adael ychydig lathenni o'r copa

Mae'r heddlu'n ymchwilio i sut yr aeth car i fyny'r Wyddfa cyn cael ei adael yno.

Credir fod y car 4X4 wedi cael ei yrru i gopa'r mynydd yn gynnar fore Sadwrn, ac o bosib wedi mynd yn sownd wrth geisio dod i lawr ychydig lathenni o'r copa.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad, ond does ganddyn nhw ddim mwy o fanylion ar hyn o bryd.

Yr Wyddfa yw copa uchaf Cymru a Lloegr, ac yn cyrraedd 3,560 o droedfeddi.

Mae cerddwyr wedi bod yn tynnu lluniau'r cerbyd Vauxhall Frontera wrth fynd heibio ar lwybr Llanberis ddydd Sul, ond mae hi'n aneglur sut yr aeth i fyny yno yn y lle cyntaf.

Dywedodd Jonathan Tyler - sydd wedi gweithio i Rheilffordd yr Wyddfa ers 7 mlynedd - fod y car ychydig islaw'r copa, ac nad oedd erioed wedi gweld car yn y fan honno o'r blaen.

Dywedodd: "Mae'n beth mor beryglus i'w wneud fel na fyddech chi byth yn gweld car 4X4 mor bell i fyny'r mynydd."

Ychwanegodd Ian Henderson o Dîm Achub Mynydd Llanberis na fyddai'r gwasanaethau brys na swyddogion y Parc Cenedlaethol fydd yn ceisio gyrru i fyny'r Wyddfa.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific