British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 5 Medi 2011, 05:55 GMT 06:55 UK
Cwmni i greu 200 o swyddi newydd

Pencadlys Admiral yn Abertawe
Pencadlys Admiral yn Abertawe

Mae grŵp yswiriant Admiral wedi dweud eu bod am ehangu eu gwaith yn Abertawe gan greu 200 o swyddi newydd.

Bwriad y cwmni - sy'n cyflogi 4,332 o bobl yng Nghymru - yw agor trydedd swyddfa yn y ddinas.

Fe fydd Admiral yn rhentu swyddfeydd ym Mro Abertawe gan Lywodraeth Cymru sy'n agos at draffordd yr M4.

Ym mis Awst, cyhoeddodd y cwmni elw cyn treth am chwe mis cynta'r flwyddyn o £160.6 miliwn - cynnydd o 27% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Dywedodd y cwmni y byddai'r swyddfeydd newydd ym Mro Abertawe yn gallu cartrefu 600 o staff.

Mae'r grŵp, sydd hefyd yn cynnwys cwmnïau Confused.com, Elephant.co.uk a Diamond, yn cyflogi 2,297 o bobl yng Nghaerdydd a 408 yng Nghasnewydd.

'Ymrwymiad'

Dywedodd pennaeth y grŵp, Huw Llewellyn: "Mae ehangu i Fro Abertawe yn dangos ymroddiad Admiral i'r ardal, ac yn caniatáu i ni gyflogi pobl leol.

Edwina Hart AC
Mae Admiral yn gwmni pwysig yn strategol sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru
Edwina Hart, Gweinidog Busnes Cymru

"Bydd hyn, ynghyd a'r twf yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chasnewydd, yn cryfhau ein hymrwymiad i Dde Cymru."

Daeth croeso i'r newyddion gan Weinidog Busnes Cymru, Edwina Hart.

"Mae Admiral yn gwmni pwysig yn strategol sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru," meddai.

"Rwyf wrth fy modd yn clywed eu bod am ehangu eto, gan eu galluogi i greu mwy o swyddi.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda chwmni Admiral ers iddo agor ei swyddfa gyntaf yng Nghaerdydd yn 1993, ac wedi parhau i gefnogi twf y cwmni."



HEFYD
Elw cyn treth i Admiral
24 Awst 11 |  Newyddion
Ffair swyddi yn 'drobwynt posib'
03 Chwef 11 |  Newyddion
Cwmni Admiral: Pencadlys newydd
07 Ion 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific