Dechreuodd cwmni rheilffordd y Great Western adeiladu'r twnel ym 1873
|
Mae aelodau o gymuned a gafodd ei chreu oherwydd bod twnel rheiffordd yn cael ei adeiladu yn dathlu penblwydd y reilffordd honno yn 125 oed dros y Sul. Cwblhawyd Twnel Hafren, sef y twnnel rheilffordd hwyaf yn y DU am dros 100 mlynedd, dan Fôr Hafren yn 1886. Mae'r twnel yn 7.2 gilomedr o hyd ac roedd yn gamp ar ran y peiriannydd Thomas Walker. Ei gamp arall oedd adeiladu pentref Sudbrook ar gyfer y 3,000 o weithwyr yr oedd eu hangen i adeiladu'r twnel.
 |
Adeiladodd Thomas Walker y pentref ar gyfer y gweithwyr, gan gynnwys dau ysbyty a chaffi mewn ymdrech i gadw'r gweithwyr allan o'r tafarnau
|
Yn ystod y penwythnos roedd aelodau Cyngor Cymuned Sudbrook a Chymdeithas Hanes Cil-y-coed yn Sir Fynwy yn cynnal nifer o ddigwyddiadau. Agorodd John Harvey, gor-ŵyr Mr Walker, Ganolfan Hanes Sudbrook am 11am ddydd Sadwrn. Tywydd gwael Dechreuodd cwmni rheilffordd y Great Western godi'r twnel ym 1873 i gludo glo o Dde Cymru i Loegr. Mr Walker lwyddodd i sicrhau y byddai'r twnel yn cael ei adeiladu wedi i'r gwaith ddod i stop am gyfnod ar ôl i gannoedd o dunelli o ddŵr lifo i mewn i'r twnel yn 1879. Yn neilltuol, roedd y tywydd gwael yn her. Dywedodd Peter Strong o Gymdeithas Hanes Cil-y-coed: "Mae naws oes Fictoria yn dal i berthyn i'r pentref ac mae'n bwysig cofnodi pa mor bwysig oedd Thomas Walker. 'Dau ysbyty' "Adeiladodd y pentref ar gyfer y gweithwyr, gan gynnwys dau ysbyty a chaffi mewn ymdrech i gadw'r gweithwyr allan o'r tafarnau." Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd trên yn sownd yn y twnnel am gyfnod am fod awyren yr Almaenwyr yn ymosod arno. Yn 1991 cafodd 185 o bobl eu hanafu pan fu dau drên mewn gwrthdrawiad yn y twnel. Roedd y dathliadau ddydd Sadwrn yn cynnwys perfformiad Band Twnel Hafren a darlith Mr Harvey am fywyd Mr Walker.
|