Bydd hyd at 400,000 tunnell o goncrid a gliriwyd o Lanwern yn cael ei ail ddefnyddio.
|
Mae prosiect £1 biliwn ar gyfer cymuned newydd ar safle'r hen waith dur yn Llanwern, Casnewydd, wedi dechrau. Bydd y prosiect yn cynnwys adeiladu 4,000 o dai dros yr 20 mlynedd nesaf, gan greu 6,000 o swyddi newydd a pharc busnes. Mae'r datblygwyr St Modwen wedi bod wrthi yn clirio'r safle ers pum mlynedd ac arwyddon nhw gytundeb i gyflawni'r gwaith gyda Chyngor Casnewydd yn 2010. Bydd hyd at 400,000 tunnell o goncrid a gliriwyd o Lanwern yn cael ei ail ddefnyddio. Glan Llyn fydd enw'r gymuned a bydd y safle 600 erw yn cynnwys cynlluniau ar gyfer ysgolion, ffyrdd, a chyfleusterau iechyd a hamdden. Ar ôl gorffen, bydd gwerth y tai a'r adeiladau eraill ar y safle yn fwy nag £1 biliwn, medd y cwmni. Y bwriad yw adeiladu 140 o dai yn y tair blynedd gyntaf.
|