British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Medi 2011, 14:31 GMT 15:31 UK
Marwolaeth: Pledio'n ddi-euog

Llys y Goron Yr Wyddgrug
Roedd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Mae cwmni adeiladu wedi gwadu torri rheolau iechyd a diogelwch wedi marwolaeth gweithiwr ym Mangor bedair blynedd yn ôl.

Roedd cwmni Watkin Jones a'i Fab o Landygai, Bangor, gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener yn pledio'n ddieuog i gyhuddiad o dorri Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974.

Ar Fai 29, 2007, roedd Thomas Whitworth, 21 oed, yn gweithio ar Ganolfan Menai, canolfan siopa yng nghanol Bangor.

Disgynnodd 60 troedfedd o'r trydydd llawr ac er iddo gael ei gludo i'r ysbyty, bu farw yno'n ddiweddarach.

Chwefror

Cafodd y cwmni eu cyhuddo o beidio â sicrhau nad oedd risg i'r gweithwyr nad oedden nhw'n eu cyflogi, gan gynnwys Mr Whitworth.

Fe gyflwynodd y bargyfreithiwr John Cooper ble dieuog ar ran y cwmni.

Roedd y ddwy ochr yn yr achos wedi awgrymu y dylid cynnal yr achos ym mis Mai y flwyddyn nesaf ond dywedodd y Barnwr Niclas Parry fod hynny'n rhy bell i ffwrdd.

Fe luniodd yntau amserlen cyflwyno tystiolaeth tystion arbenigol fel y gallai'r achos ddigwydd ym mis Chwefror 2012 ac mae disgwyl iddo bara am bythefnos.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific