British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Medi 2011, 10:54 GMT 11:54 UK
£10 miliwn i drwsio ffyrdd Y Rhondda

A4223
Mae ffordd yr A4223 yn cael ei ystyried yn hanesyddol fel y porth i Gymoedd y Rhondda

Wedi tri gaeaf caled mae angen gwneud gwaith atgyweirio ar un o brif ffyrdd Y Rhondda.

O dan gynllun gwerth £10 miliwn gan Gyngor Rhondda Cynon Taf fe fydd y gwaith ar yr A4233 yn cael ei wneud.

Mae'r ffordd yn rhedeg am gyfanswm o 13.9 milltir drwy Porth, Pendyrus, Glynrhedynog a'r Maerdy cyn croesi'r mynydd i Aberdâr.

Mae'r ffordd hanesyddol yn cael ei gweld fel y porth i Gymoedd Y Rhondda, ac fe gafodd yr estyniad iddi dros y mynydd ei adeiladu yn y 1930au fel rhan o gynllun i wella diweithdra.

Cefnogaeth

Eisoes mae 100 o ffyrdd y cyngor wedi cael eu trin fel rhan o'r cynllun.

Er mwyn gwneud y gwaith diweddara mae'r awdurdod yn apelio ar drigolion yr ardaloedd dan sylw i gydweithredu drwy gadw eu ceir oddi ar y ffyrdd ar adegau penodol, ac fe fydd yr awdurdod yn cysylltu gyda thrigolion yn y dyfodol agos ynglŷn â'r ardaloedd sy'n weddill.

"Mae'r Cyngor yn cydnabod pryderon y cyhoedd mewn perthynas â thyllau ar y ffyrdd," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, sydd â chyfrifoldeb am briffyrdd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf.

"Rydym yn ymwybodol hefyd o'r difrod y mae tri gaeaf caled yn olynol wedi ei wneud i isadeiledd y ffyrdd.

Tymor hir

"Mae gwaith hanfodol yn digwydd ar draws y sir ar hyn o bryd, ac fe fydd yn parhau dros y misoedd nesaf.

"Hoffwn ddiolch i'r trigolion am eu cefnogaeth hyd yma.

"Mae'r gweithlu yn ddibynnol iawn ar gefnogaeth trigolion, ond fe allai'r gwaith sydd eto i'w wneud achosi peth trafferthion ac fe fyddwn yn gofyn i bobl barhau i'n cefnogi yn y cyfnod yma, gan y bydd er eu lles nhw yn y tymor hir."

Mae adran Gwasanaethau Amgylcheddol y cyngor eisoes wedi penderfynu pa ffyrdd fydd y nesaf i gael eu trin fel rhan o'r cynllun, ac fe fydd y gwaith yn cael ei wneud yn y dull mwyaf effeithlon cyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol.



HEFYD
Cost o £1.2m wedi difrod i'r ffyrdd
17 Mai 11 |  Newyddion
Ffyrdd Cymru: Pryderon am wariant
12 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific