British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Medi 2011, 15:43 GMT 16:43 UK
Cannoedd yn angladd Lewis

Lewis Darroch
Roedd yr angladd am 1.30pm yn Eglwys Sant Cybi, Caergybi

Roedd cannoedd yn angladd un o'r ddau ffrind fu farw oddi ar arfordir Ynys Môn.

Cafodd Lewis Darroch, 22 oed o'r Fali, ei dynnu o'r môr ger Rhosneigr ar Awst 24 ond roedd wedi marw erbyn cyrraedd yr ysbyty.

Mae'n gadael rhieni, Alan ac Anne, chwaer Katie a'i gariad Hannah.

Roedd y gwasanaeth yn Eglwys Sant Cybi, Caergybi, am 1.30pm cyn iddo gael ei gladdu ym Mynwent Ynys Wen.

Cafodd corff ei ffrind 22 oed, Callum MacKay, ei dynnu o'r môr ger Rhosneigr nos Fercher.

Roedd yn dod o Lanfairpwll ac wedi bod ar goll ers yr wythnos diwethaf.

Aeth y ddau i drafferth yn y môr ym Mhorth Trecastell, i'r de o Rosneigr.

Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i farwolaethau'r ddau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific