Mae'r cwmni yn cyflogi 221 o weithwyr
|
Mae gweithwyr mewn chwareli llechi yng Ngwynedd wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen efo streic. Roedden nhw'n anhapus ynglŷn â'r bwriad i rewi eu cyflogau. Dywedodd cwmni Welsh Slate, sydd wedi ei leoli yn Chwarel Y Penrhyn, Bethesda, fod y steic wedi cael ei ohirio wrth i'r gweithwyr gytuno i dermau ar gyfer diwedd 2012. Roedd 81% o'r 160 o weithwyr sy'n aelodau undeb Unite wedi pleidleisio o blaid mynd ar streic. Ond roedd ail bleidlais ddydd Iau yn dangos bod y gweithwyr wedi ailfeddwl. Yn ôl y cwmni llechi mae cyflogau, gan gynnwys bonws, wedi cynyddu 12% ers iddyn nhw gymryd rheolaeth o'r cwmni yn 2008. "Gallwn gadarnhau bod 'na gytundeb wedi ei wneud rhwng yr undeb a'r cwmni ar delerau tan ddiwedd 2012," meddai Alan Smith, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni. Mae Welsh Slate yn cyflogi 211 o bobl mewn pedair chwarel yn y gogledd. Y pedair chwarel yw Penrhyn (Bethesda), Blaenau Ffestiniog, Pen yr Orsedd a Chwt-y-Bugail. Ym mis Awst cyhoeddodd y cwmni eu bod yn allforio mwy o'u cynnyrch nag erioed. Datganodd y cwmni eu bod nhw'n allforio 40% o'u cynnyrch llechi to dros y môr. Doedd 'na gynrychiolydd o Undeb unite ar gael i wneud sylw.
|