British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Medi 2011, 12:00 GMT 13:00 UK
Llofrudd Rebecca Aylward yn cael ei garcharu am oes

Joshua Davies
Cafodd Joshua Davies ei garcharu am oes

Mae Joshua Davies wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio'r ferch ysgol 15 oed, Rebecca Aylward.

Roedd Davies, 16 oed, wedi denu ei gyn-gariad i goedwig yn Abercynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr cyn ymosod arni gyda charreg.

Yn Llys y Goron Abertawe ym mis Gorffennaf cafwyd Davies yn euog o lofruddiaeth.

Dydd Gwener fe wnaeth ddychwelyd i'r llys i gael ei ddedfrydu.

Fe fydd yn gorfod treulio o leiaf 13 mlynedd a 53 niwrnod yn y carchar cyn gwneud cais am barôl.

Roedd wedi gwadu'r cyhuddiad, gan ddweud mai un o'i ffrindiau oedd ar fai.

'Cysgod parhaol'

Wrth gael ei ddedfrydu dywedodd y barnwr Mr Ustus Lloyd Jones i Davies ei llofruddio "am gasineb dwfn" oedd ganddo.

"Mae marwolaeth Rebecca wedi gadael cysgod parhaol ar ei theulu."

Disgrifiodd Davies fel person dyn "craff, cyfrwys a oedd mewn rheolaeth" ac un na ddangosodd unrhyw edifeirwch.

Rebecca Aylward
Cafodd Rebecca Aylward ei llofruddio mewn coedwig

Roedd Davies yn ddigyffro wrth iddo gael ei ddedfrydu a doedd 'na ddim ymateb gan ei deulu.

Roedd ei fargyfreithiwr, Peter Rouch QC, wedi dweud nad oedd Davies yn cydnabod ei fod yn euog.

Eglurodd ei fod yn dal i gadw at y stori a ddywedodd wrth y rheithgor mai ei ffrind gorau oedd y gwir llofrudd.

Ychwanegodd hefyd nad oedd 'na achos o iechyd meddwl yn yr adroddiadau seicolegol.

Cafodd Rebecca, o Faesteg, ei churo i farwolaeth â charreg mewn coedwig fis Hydref 2010.

Cafwyd Davies yn euog o fwyafrif 10-2 ym mis Gorffennaf.

Yn ystod yr achos clywodd y llys fod y diffynnydd wedi sôn wrth ei ffrindiau am ladd Rebecca.

Clywodd y llys bod Davies yn aml yn casáu Rebecca a bod ffrind iddo wedi cynnig prynu brecwast iddo ar ôl awgrymu y byddai'n "cael gwared â hi".

Methu maddau

Cafodd enw Davies ei gyhoeddi ar ôl iddo ei gael yn euog.

Ar ôl y dyfarniad dywedodd teulu Rebecca na fydden nhw fyth yn maddau i Davies.

Roedd mam Rebecca, Sonia Oatley, wedi dweud cyn y ddedfryd ei bod yn gobeithio y byddai'n treulio gweddill ei oes yn y carchar.

Wedi'r ddedfryd dywedodd Ms Oatley ei bod yn falch ei fod wedi cael ei garcharu am oes ond ychwanegodd ei fod yn haeddu'r gosb eithaf.

"Mae Joshua Davies wedi dwyn ein merch fach brydferth oddi wrthym.

"Fyddwn ni fyth yn maddau iddo am rwygo ein teulu mor ffiaidd ac fe fyddem yn croesawu'r gosb eithaf i'r rhai fel Joshua Davies."

Dywedodd bod Rebecca wedi breuddwydio i fod yn fargyfreithwraig rhyw ddydd, breuddwyd a ddrylliwyd gan un yr oedd hi'n "ei garu a'i ymddiried."

"Roedd Rebecca yn credu mewn cyfiawnder ac mae cyfiawnder wedi ei wneud heddiw."

Diolchodd i aelodau'r cyhoedd am eu cefnogaeth ac i'r erlyniad.



HEFYD
Yn euog o lofruddio merch ysgol
27 Gorff 11 |  Newyddion
Achos llofruddiaeth: Cyhuddo ffrind
14 Gorff 11 |  Newyddion
Llys: 'Bet adeg brecwast yn jc'
28 Meh 11 |  Newyddion
Llofruddiaeth: Dim mechnaeth
28 Hyd 10 |  Newyddion
Llys yn clywed am fygythiad o ladd
23 Meh 11 |  Newyddion
Llofruddiaeth: Apl o'r newydd
02 Tach 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific