British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Medi 2011, 20:49 GMT 21:49 UK
Cymru 2-1 Montenegro

Steve Morison yn rhoi Cymru ar y blaen
Steve Morison yn rhoi Cymru ar y blaen

Cymru 2-1 Montenegro
Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cipio'u buddugoliaeth a'u pwyntiau cyntaf yn rowndiau Rhagbrofol Ewro 2012 ar ôl maeddu Montenegro yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.

Aeth tîm Gary Speed Cymru ar y blaen yn haeddiannol wedi 29 munud ar ôl i golwr yr ymwelwyr fethu â dal gafael ar groesiad David Vaughan, gan roi cyfle hawdd i Steve Morison o flaen y gôl.

Roedd Gareth Bale yn ddraenen yn ystlys yr ymwelwyr dro ar ôl tro, ac fe wnaeth ei ergyd bwerus orfodi Bozovic y golwr i ymestyn i'r eithaf i godi'r bêl dros y bar.

Cafodd Radomir Dalovic gyfle gorau'r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf ond methodd â rhoi prawf ar Hennessey.

Yn fuan yn yr ail hanner, rhoddodd capten Cymru Aaron Ramsey ei dîm ymhellach ar y blaen pan fanteisiodd ar groesiad celfydd gan un arall o enwau amlyca'r Uwchgynghrair, Gareth Bale.

Ond roedd amddiffyn llac gan Chris Gunter wedi galluogi troed dde Stevan Jovetic i roi gobaith i'r ymwelwyr wrth sgorio o bell.

Aaron Ramsey
Aaron Ramsey oedd y capten nos Wener

Roedd Montenegro yn edrych yn fwy peryglus ar ôl y gôl, gan olygu chwarter olaf nerfus i gefnogwyr Cymru.

Ond fe sicrhaodd y Cymry fuddugoliaeth haeddiannol fydd yn hwb fawr wrth adeiladu'r tîm ar gyfer y dyfodol.

Ond cafodd Craig Bellamy a David Vaughan ill dau garden felen yn yr hanner cyntaf sy'n golygu y byddan nhw'n colli'r gêm yn erbyn Lloegr.

Tair gêm yn unig sydd gan Gymru ar ôl yn y gystadleuaeth.

Dywedodd rheolwr Cymru Gary Speed yn y gynhadledd newyddion ddydd Iau ei fod "eisiau i'r garfan fod yn fwy hyderus, yn fwy trahaus ac yn fwy cas...." ac roedd y chwaraewyr wedi gwrando ar ei gri.

Bron i flwyddyn yn ôl fe deithiodd Cymru i Podgorica i wynebu Montenegro yn eu gêm gyntaf yn yr ymgyrch.

Gary Speed
Dywed Gary Speed bod angen i'r tm fod yn fwy hyderus

Colli oedd eu hanes o gôl i un ac fe ddaeth teyrnasiad John Toshack fel rheolwr i ben.

Bellach mae Speed yn gweld tasg mor anodd yw bod yn rheolwr ar dîm cenedlaethol, a chyn nos Wener roedd Cymru wedi colli pedair o'r pum gêm ers iddo gymryd yr awenau.

Gyda'r tîm yn ei safle isaf erioed yn rhestr detholion FIFA roedd angen y fuddugoliaeth yn ddirfawr gan gofio bod gêm yn erbyn Lloegr yn Wembley nos Fawrth.

Carfan Cymru ar gyfer y ddwy gêm:

Golgeidwad: Wayne Hennessey (Wolves), Boaz Myhill (ar fenthyg i Birmingham o West Bromwich Albion)

Amddiffynwyr: Darcy Blake (Caerdydd), Danny Collins (Stoke), James Collins (Aston Villa), Danny Gabbidon (Queens Park Rangers), Chris Gunter (Nottingham Forest), Adam Matthews (Celtic), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe).

Canol Cae: Joe Allen (Abertawe), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Jack Collison (West Ham United), Andrew Crofts (Norwich), Andy King (Caerlyr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), Hal Robson-Kanu (Reading), David Vaughan (Sunderland).

Blaenwyr: Craig Bellamy (Lerpwl), Simon Church (Reading) , Robert Earnshaw (Caerdydd), Steve Morison (Norwich City), Sam Vokes (Wolves)

Chwaraewyr wrth gefn:

Lewis Price (Crystal Palace), Lewin Nyatanga (Bryste), Ashley Richards (Abertawe), Rhoys Wiggins (Charlton Athletic), David Cotterill (Abertawe), David Edwards (Wolves), Jermaine Easter (Crystal Palace), Ched Evans (Sheffield United).



HEFYD
Cymdeithas Bl-Droed Cymru
25 Awst 11 |  separator


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific