British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 10 Medi 2011, 13:21 GMT 14:21 UK
Ffrind yn cofio Cymro fu farw ar Fedi 11

Rhys Parry Jones
Rhys Parry Jones: "Dwi'n cofio ffrind da a doedd neb tebyg iddo"

Un fu farw yn yr ymosodiadau ar Fedi 11, 2001, oedd Cymro o Ddyfnant ger Abertawe.

Roedd Nicholas John yn 33 oed ac yn gweithio yn y byd bancio.

"Roedd yn un o'r bois ac yn mwynhau bywyd yn fawr, yn enwedig teithio a chwrdd â phobl newydd," meddai ei gyfaill, yr actor Rhys Parry Jones.

Roedd y ddau wedi bod yn ffrindiau ers eu plentyndod.

"Ro'n ni'n rhannu tŷ ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedyn yn Llundain," meddai Rhys.

Dim perygl

Dywedodd fod ei ffrind yn Gymro balch ac yn hoff o sôn am Gymru a'i hiaith wrth Americanwyr.

Pan dorrodd y newyddion am yr ymosodiadau doedd Rhys ddim yn credu bod ei ffrind mewn unrhyw berygl.

Doedd swyddfeydd cyflogwr Nicholas, Chase Manhattan, ddim yn adeilad Canolfan Masnach y Byd.

Ond roedd ei ffrind yn cynnal seminar blynyddol ar lawr 108 y tŵr gogleddol.

"Cyn belled ag yr o'n i yn y cwestiwn, ... ro'dd Nick yn hollol iawn," meddai Rhys.

"Ac ro'n i'n deall yn iawn fod cysylltu â Manhattan yn anodd felly do'n i ddim yn poeni nad oedd e'n ymateb i fy e-byst."

Erbyn y pedwerydd diwrnod, roedd yn poeni. "Fe ddechreues i ga'l y teimlad erchyll 'ma.

"Wedyn fe glywes i oddi wrth ffrind agos arall fod ei gwmni wedi dweud: 'Hope for the best, but fearing the worst'.

"Fe ddes i ar draws gwefan oedd yn dweud bod galwad ffôn 911 wedi ei chofnodi 'da fe, Nic, ar ôl i'r awyren fwrw i mewn i'r adeilad.

"Ond dwi wir ddim yn hoffi meddwl ei fod e wedi dioddef."

'Teimlad rhyfedd'

Dywedodd fod criw o'i gyd-weithwyr a'i gariad o Awstralia wedi trefnu gwasanaeth coffa yn Llundain a hynny pan oedd y ddinas o dan fygythiad.

"Roedd e'n deimlad rhyfedd gyda neb ar y strydoedd," meddai Rhys.

"Mae'r byd wedi newid ers hynny.

"Dwi'n cofio ffrind da a doedd neb tebyg iddo."

Chase Manhattan
Roedd Nic yn gweithio i Chase Manhattan

Yn Efrog Newydd gosododd disgyblion o Ysgol Gyfun Ystalyfera - hen ysgol Nick a Rhys - gennin Pedr yng ngardd goffa'r rhai o wledydd Prydain fu farw.

Bydd cyngerdd goffa yno ddydd Sul.

Yn Llundain bydd teuluoedd a ffrindiau'r rhai gafodd eu lladd yn ymgynnull am 11am mewn seremoni goffa yng Nghadeirlan St Paul's.

Bydd seremoni yng Ngerddi Coffa Sgwâr Grosvenor, Llundain, yng nghwmni'r Tywysog Charles, Duges Cernyw a Llysgennad America ym Mhrydain.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific