British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Medi 2011, 05:55 GMT 06:55 UK
Artistiaid gogledd Cymru yn agor eu drysau

Gwaith gan Llinos Lanini
Bydd stiwdio'r ffotograffydd Llinos Lanini ymysg y rhai fydd ar agor i'r cyhoedd

Mae Helfa Gelf, digwyddiad stiwdio agored fwyaf gogledd Cymru, wedi derbyn y nifer mwyaf erioed o geisiadau eleni.

Bydd dros 200 o artistiaid yn agor eu stiwdios i'r cyhoedd.

Mae'r prosiect, a ddechreuodd yn 2006 yn Sir Conwy, yn ehangu i Wrecsam eleni.

Ac felly yn ymestyn ar draws gogledd Cymru i gyd.

Mae Helfa Gelf yn gyfle i ymwelwyr gael profiad o fyd yr artist ac i sgwrsio gyda nhw am eu gwaith.

Dywedodd Llinos Lanini, ffotograffydd o'r Wyddgrug, bod hyn yn gyfle gwych i gyfarfod ag aelodau o'r cyhoedd ac artistiaid eraill.

"Pan gymerais ran y llynedd daeth bron i 70 o bobl i'm stiwdio."

Dywed Sabine Cockrill, Cydlynydd Prosiect ar gyfer Helfa Gelf, bod 'na "rywbeth at ddant pawb".

"Pob penwythnos ym mis Medi, gallwch alw heibio arlunwyr, cerflunwyr, ffotograffwyr, gweithwyr coed, crochenwyr, gwehyddion basgedi, artistiaid digidol a llawer mwy, pob un â'i grefft arbenigol ei hun."

Mae Helfa Gelf yn rhedeg bob dydd Gwener i ddydd Sul ym mis Medi rhwng 11am-5pm.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific