British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 1 Medi 2011, 10:20 GMT 11:20 UK
Elin Jones yn y ras i arwain Plaid Cymru

Elin Jones
Elin Jones: 'Pennod newydd yn agor ar gyfer Plaid Cymru'

Mae cyn-weinidog Plaid Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i sefyll am arweinydd y blaid.

Dydd Iau cyhoeddodd Elin Jones, AC Ceredigion, y byddai yn y ras ar gyfer olynu Ieuan Wyn Jones.

Roedd 'na gryn ddisgwyl y byddai'r cyn-Weinidog Materion Gwledig yn y ras ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Fe fydd Mr Jones yn rhoi'r gorau i'r arweinyddiaeth y flwyddyn nesaf.

Eisoes mae Dafydd Elis-Thomas, Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, wedi dweud bod ganddo ddiddordeb yn y swydd.

Trafodaeth

Mae disgwyl trafodaeth am yr arweinydd nesaf yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Llandudno.

"Yn awr mae pennod newydd yn agor ar gyfer Plaid Cymru," meddai ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn 45 oed ddydd Iau.

"Ein tasg ni yw cryfhau ymreolaeth ac economi ein gwlad, a chyflwyno'r achos i drigolion Cymru y byddai lles ein gwlad yn elwa'n well o annibyniaeth na dibyniaeth."

Fydd yr enwebiadau ddim yn agor yn swyddogol tan fis Ionawr.



HEFYD
Gweinidog yn bencampwraig ffermio
09 Hyd 09 |  Newyddion
Cwtogi ar waith papur ffermwyr?
15 Ion 08 |  Newyddion
Marathon o ras i arwain Plaid Cymru
14 Mai 11 |  Newyddion
Ieuan Wyn Jones i sefyll i lawr
13 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific