British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 1 Medi 2011, 12:09 GMT 13:09 UK
Galw ar rieni i bwyso am safonau hylendid bwyd

Disgybl yn cael cinio ysgol
Mae Llais Defnyddwyr Cymru am i rieni roi pwysau ar ysgolion

Fe ddylai rhieni bwyso ar ysgolion â lefel isel o hylendid bwyd, yn ôl Llais Defnyddwyr Cymru.

Cyn i ysgolion ailagor ar ôl gwyliau'r haf mae ystadegau'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos bod 'na 48 sefydliad addysgol â graddau isel .

Mae'r sefydliadau'n cynnwys ysgolion, colegau, meithrinfeydd a chylchoedd chwarae.

Yn y cyfamser, mae cynghorau wedi dweud bod problemau'n cael eu taclo.

Dywedodd mudiad y defnyddwyr y dylai rhieni edrych ar radd yr ysgol leol a gofyn am fanylion os oedd y graddau'n isel.

Roedd 12 sefydliad â graddau isel, Gradd Un neu Ddau, yn ardal Caerdydd, 11 yng ngogledd Cymru, chwech yng Nghasnewydd a phump yn Rhondda Cynon Taf.

'Dim esgus'

"Does 'na ddim esgus pam eu bod yn methu plant bregus a phobl ifanc y maen nhw'n eu gwasanaethu," meddai Liz Withers, Pennaeth Polisi Llais Defnyddwyr Cymru.

"Dydyn ni ddim yn dweud wrth rieni i beidio â gadael i'w plant gael bwyd ysgol yn ystod y tymor hwn ond rydyn yn eu hannog i roi pwysau ar yr ysgolion a'r awdurdodau lleol i godi safonau diogelwch bwyd.

"Fe all rhieni wneud hyn drwy fynnu gwybodaeth am yr hyn sy'n cael ei wneud i wella'r safonau - a gweld adroddiadau swyddogion iechyd amgylchedd."

Dros yr haf roedd naw achos o E. coli yn ne ddwyrain Cymru.

Ail-agor

Fe wnaeth siop bwyd parod yng Nghaerdydd ail-agor yr wythnos diwethaf.

Mae'r achos diweddara wedi arwain at sichrau bod bwytai a siopau bwyd parod yn dangos eu graddau hylendid bwyd.

Ac eithrio meithrinfeydd preifat a chylchoedd chwarae mae 'na fwy na 2,000 o ysgolion yng Nghymru.

Does 'na ddim esgus pam eu bod yn methu plant bregus a phobl ifanc y maen nhw'n eu gwasanaethu
Liz Withers, Pennaeth Polisi Llais Defnyddwyr Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir a Dinas Caerdydd fod y graddau yn adlewyrchu natur yr adeiladau oedd yn cael eu harchwilio yn ogystal â materion rheoli diogelwch bwyd.

"Mae Cardiff Catering, sy'n cyflenwi prydau i ni ar gyfer y safleoedd yma, yn cymryd y materion yma o ddifri ac sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod yr holl safonau yn cael eu cyrraedd."

Ychwanegodd Cyngor Casnewydd fod "materion strwythurol" yn amlwg yn yr adroddiadau ar gyfer un safle a'u bod yn gobeithio datrys hynny y mis yma.

Mae materion eraill wedi cael eu datrys yn syth wedi'r archwiliad, meddai.



HEFYD
Pryderon am hylendid bwyd
22 Maw 11 |  Newyddion
Galw am arddangos hylendid bwyd
03 Hyd 10 |  Newyddion
E.coli: Cadarnhau un achos arall
19 Awst 11 |  Newyddion
E.coli: Cyfanswm o naw achos
26 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific