Llun swyddogol o'r garfan cyn iddyn nhw gychwyn am Seland Newydd
Mae carfan rygbi Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd wedi cyrraedd Seland Newydd. Gadawodd y garfan a'r tîm rheoli Westy'r Vale ddydd Mercher. Fe fydd eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth yn erbyn De Affrica ar Fedi 11.
 |
GEMAU CYMRU
Medi 11 - De Affrica
Medi 18 - Samoa
Medi 26 - Namibia
Hydref 2 - Fiji
|
Cyn gadael dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, ei fod yn hapus iawn efo'r hyn sydd wedi cael ei wneud ymlaen llaw. Dywedodd y gŵr o Seland Newydd ei fod yn hapus iawn gyda'r gemau paratoi ym mis Awst. "Mae'n rhaid i ni edrych ymlaen at fynd i Seland Newydd, mae'n rhaid i ni fynd yno gyda lot o hyder. "Dwi'n gwybod bod yr hogiau yn barod ac yn mynd i roi o'u gorau. "Dyma binacl gyrfa unrhyw chwaraewr rygbi rhyngwladol, fel chwaraewr neu hyfforddwr, i fod yn rhan o Gwpan y Byd." 'Camgymeriadau' Fe wnaeth Gatland hefyd ddweud ei fod wedi siarad gyda Gareth Jenkins, cyn-hyfforddwr Cymru, cyn gadael. Jenkins oedd hyfforddwr Cymru ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd diwethaf yn Ffrainc.
Mae Warren Gatland yn edrych ymlaen i ddychwelyd i Seland Newydd efo Cymru
|
Collodd ei swydd wedi perfformiad siomedig Cymru. "Roedd yn grêt siarad gyda Gareth am ei brofiadau bedair blynedd yn ôl. "Fe wnes i siarad gyda fe a'i gynorthwyydd ar y pryd, Nigel Davies, am yr hyn wnaethon nhw bedair blynedd yn ôl a be fydden nhw wedi ei newid. "Yn amlwg fe wnaethon nhw gamgymeriadau ac fe fydden nhw'n gwneud newidiadau yn ddi-os. "Rydym i gyd yn dysgu o'n camgymeriadau." Dywedodd hefyd ei bod yn fraint mynd â thîm Cymru i Seland Newydd. "Dwi'n gobeithio y gallwn wneud Cymru yn falch iawn ohonon ni," ychwanegodd.
|