British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 1 Medi 2011, 06:21 GMT 07:21 UK
Canfod beddrod ar safle chwarael Cr y Cewri

Cr y Cewri
Archeolegwyr yn credu bod y canfyddiad yn profi fod cysylltiad pensaernol rhwng y ddau safle

Gallai gweddillion adeiladwyr Côr y Cewri fod wedi eu canfod wrth gloddio ar safle yng Nghymru.

Safle Carn Menyn ym Mynyddoedd y Preseli yw tarddiad y cerrig gleision gafodd eu defnyddio er mwyn codi rhan gyntaf y côr yn 2300 CC.

Fe fydd deunydd organig o'r beddrod yn cael eu dyddio.

Mae archeolegwyr yn credu y gallai'r gwaith yma brofi cysylltiad mwy pendant thwng y safle â Chôr y Cewri.

Olion cofadail ddefodol sydd wedi ei ganfod ynghyd â chlawdd a ffos ac mae'n debyg fod dau faen hir yn gorwedd yn y clawdd.

Rydym yn gwybod bod rhai o'r cerrig gleision a gafodd eu defnyddio i adeiladu Côr y Cewri hefyd wedi eu gosod fesul ddau.

Mae archeolegwyr yn credu bod y canfyddiad hwn yn profi fod cysylltiad pensaernïol rhwng y ddau safle.

'Cofadail defodol'

Awgrymodd y daearegwr Herbert Thomas fod yna gysylltiad rhwng y safle a Chôr y Cewri yn 1923.

Cafodd yr awgrym ei gadarnhau yn 2008 pan roddwyd caniatâd i gloddio tu fewn i Gôr y Cewri am y tro cyntaf ers hanner canrif.

Y gred yw bod y cerrig gleision wedi eu symud o fynyddoedd y Preseli i Gôr y Cewri - taith o 150 milltir.

Mae dau archeolegydd sy'n arbenigo ar Gôr y Cewri, Yr Athro Geoff Wainright a'r Athro Timothy Darvill wedi arwain y prosiect diweddara.

"Mae canfod y gofadail defodol yn awgrymu ein bod ni wedi darganfod rhywun pwysig iawn allai fod wedi bod yn gyfrifol am symud y cerrig gleision i Gôr y Cewri," meddai'r Athro Geoff Wainright.



HEFYD
'Dychwelwch Gr y Cewri'
22 Meh 04 |  Newyddion
Cymry'n 'codi' Cr y Cewri
21 Meh 04 |  Newyddion
Canfod 'chwarel' Cr y Cewri
24 Meh 05 |  Newyddion
Cartref parhaol i'r Garreg Las
28 Rhag 02 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific