Yn ôl Dr Marek dyma'r esiampl olaf o simnai o'r fath yng Nghymru
|
Mae'r cyn AS ac AC John Marek yn cynnig hen simnai o oes Fictoria yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb ynddi. Mae'r simnai, sydd yn 120 droedfedd o uchder, yng nghanol tref Wrecsam. Fe brynodd Dr Marek y simnai oddi wrth Fragdy Marston's 20 mlynedd yn ôl er mwyn ei hatal rhag cael ei chwalu. Ond erbyn hyn mae'n teimlo ei bod hi'n bryd i rywun arall ofalu am yr adeilad nodedig yn Stryd Tuttle. "Dwi'n teimlo fy mod wedi chwarae fy rhan i ddiogelu'r darn yma o dreftadaeth Wrecsam," meddai. 'Cyflwr da' "Dwi'n gobeithio y bydd rhywun arall yn dod ymlaen a chymryd cyfrifoldeb amdano oherwydd fydda i ddim o gwmpas am byth. "Mae'r yswiriant yn costio tua £700-£800 y flwyddyn ond mae'r simnai mewn cyflwr da." Dywedodd Dr Marek mai dyma'r esiampl olaf o simnai o'r fath yng Nghymru. Fe'i hadeiladwyd ym 1894 fel rhan o Fragdy Soames. Daeth Soames yn rhan o fragdy Border a chaeodd ym 1984 wedi i fragdy Marstons ei gymryd drosodd. Pan fygythiwyd y simnai â dinistriad ym 1990 daeth Dr Marek i gytundeb gyda Marstons y byddai'n edrych ar ôl y simne a throsglwyddodd y cwmni berchenogaeth o'r adeilad iddo. Rhai wythnosau yn ôl cynigiodd Dr Marek y simnai i unrhyw un oedd â diddordeb ynddo drwy bapur newydd lleol ond hyd yn hyn nid yw wedi derbyn unrhyw gynigion. "Dwi'n mynd i ofyn i'r cyngor os ydyn nhw ei eisiau ond os nad oes unrhyw ddiddordeb byddaf yn ei hysbysu'n ehangach," dywedodd.
|