British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 31 Awst 2011, 10:58 GMT 11:58 UK
Clevery i wynebu Bellew ym mis Hydref

Nathan Clevery (ch); Frank Warren a Tony Bellew (dde)
Fe fydd y frwydr rhwng y ddau Brydeiniwr yn Lerpwl fis Hydref

Fe fydd Nathan Cleverly yn amddiffyn coron is-drwm WBO y byd ym mis Hydref.

Ei wrthwynebydd fydd Tony Bellew a hynny yn Lerpwl ar Hydref 15.

Gobaith yr hyrwyddwr Frank Warren yw y bydd yr enillydd yn wynebu'r Americanwr Bernard Hopkins.

Fe fyddai'r ornest honno yn y DU.

Does neb wedi trechu Cleverly a Bellew hyd yma.

Roedd disgwyl i Bellew wynebu Clevery ym mis Mai ar ôl i Juergen Bramehmer dynnu'n ôl.

Ond methodd Bellew â chyrraedd y pwysau angenrheidiol.

'Breuddwydio'

Fe wnaeth Cleverly, o Gefn Fforest ger y Coed-duon, guro Alesksy Kuziemski.

"Mae'r frwydr rhyngdda i a Bellew wedi bod yn poethi ers amser a nawr mae'n amser iddo ddysgu gwers ddrud," meddai Cleverly ar wefan Frank Warren.

"Mae ganddo geg fawr ond all o ddim ategu'r sylwadau efo'i ddyrnau."

Dywedodd Bellew fod ei wrthwynebydd yn "breuddwydio" os ydi o'n credu y gall ei drechu.

"Dyw e erioed wedi curo neb... dwi'n ffit ac yn barod...fe roi hunlle iddo."

Mewn cyfnod o 23 mlynedd dim ond pum gornest o 60 y mae Hopkins wedi ei golli.

Fe fydd o'n wynebu Chad Dawson ar Hydref 15 yn Los Angeles.



HEFYD
Cleverly yn amddiffyn ei goron
22 Mai 11 |  Newyddion
Cleverly yn bencampwr byd
19 Mai 11 |  Newyddion
Camp Cleverly
25 Meh 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific