British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 31 Awst 2011, 09:54 GMT 10:54 UK
Dicter dros gwtogi gwasanaeth Stena Line

Gwasanaeth cyflym Stena Line
Y gost uchel o gynnal y gwasanaeth sydd ar fai yn ôl y cwmni.

Mae arweinwyr undebau yn dweud y byddan nhw'n brwydro yn erbyn cynlluniau cwmni fferi Stena Line i gwtogi ar y gwasanaeth cyflym rhwng Cymru ac Iwerddon.

Mae cyfnod ymgynghori rhwng Stena Line â thri undeb sy'n cynrychioli 88 o weithwyr yn cychwyn ddydd Mercher am 30 niwrnod.

Dim ond am ychydig fisoedd yn ystod yr haf y bydd y llongau cyflym yn teithio rhwng Dun Laoghaire â Chaergybi o 2012 ymlaen.

Y gost uchel o gynnal y gwasanaeth sydd ar fai yn ôl llefarydd ar ran y cwmni.

Bydd y gwasanaeth cyflym yn dod i ben ar Fedi 13 ac yn ail gychwyn yn ystod haf 2012.

'Eithriadol o siomedig'

Dywedodd Steve Todd, ysgrifennydd cenedlaethol undeb yr RMT: "Rwy'n eithriadol o siomedig ac yn ddig iawn gyda'r holl amser mae'r cwmni wedi cymryd i wneud y cyhoeddiad hwn.

"Fe wnaethon ni ofyn i'r cwmni ym mis Tachwedd y llynedd a oedd ganddyn nhw gynlluniau am ragor o doriadau a dywedodd y cyfarwyddwr busnes Mr McGrath 'nag oedd'.

"Mae pobl yn cael eu gadael ar y clwt.

"Mae hon yn ardal heb lawer o gyfleoedd gwaith."

Dywedodd y cwmni y bydden nhw'n dal i redeg gwasanaeth dwy fferi draddodiadol rhwng y ddau borthladd drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd cyfarwyddwr busnes Môr Celtaidd Stena Line, Michael McGrath: "Er i ni geisio gostwng costau rhedeg y gwasanaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf dyw e ddim wedi bod yn bosib i ni wneud y gwasanaeth yn broffidiol.

"Mae'r rhan fwyaf o refeniw'r gwasanaeth cyflym yn deillio o gwsmeriaid sy'n defnyddio ceir a bysiau yn ystod yr haf.

"Allwn ni ddim cynnal y math yma o golledion.

"Rydyn ni'n credu y bydd y cyfuniad o gynnal gwasanaeth dwy fferi draddodiadol rhwng Dun Laoghaire â Chaergybi ynghyd â'r gwasanaeth cyflym yn ystod yr haf yn ateb gofynion y farchnad a'n cwsmeriaid."

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd cwmni Frontline, sy'n rhedeg gwasanaeth fferi rhwng Abertawe â Cork, eu bod nhw'n bwriadu cwtogi eu gwasanaeth yn ystod y gaeaf, o deirgwaith i ddwywaith yr wythnos.



HEFYD
Stena Line: Cwtogi gwasanaeth
30 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific