British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 31 Awst 2011, 10:12 GMT 11:12 UK
Muriau Conwy'n her i yrwyr bws

Gyrwr bws yn ceisio mynd drwy waliau hynafol Conwy
Mae'r waliau yn mesur gallu'r gyrwyr

Mae'r ffordd i mewn i ganol tre hynafol Conwy yn gul wrth fynd drwy waliau hanesyddol y castell.

Er bod hyn yn rhan o hud y dre i filoedd o ymwelwyr, mae pryder nawr y bydd llai ohonyn nhw yn ymweld â'r dre a hynny oherwydd bod y bysiau sy'n eu cludo yn rhy fawr i basio drwy'r waliau.

Mae Cyngor Sir Conwy yn ystyried sut i ddatrys y broblem ac mae ganddyn nhw ambell i syniad.

Mae busnesau yn y dref yn dweud bod ymwelwyr yn allweddol i'r economi leol.

Mae 'na bedair prif ffordd i mewn i'r dref ac mae tair ohonyn nhw yn gul iawn ac yn mynd drwy fynedfa fwa o'r 13eg Ganrif.

Un sy'n cyrraedd Conwy yn gyson yn ei fws yw Norman Mylchreest ac mae'n dweud bod gan y gyrwyr lleol eu triciau eu hunain i fynd drwy'r pyrth.

Gallu'r gyrwyr

"Pan fyddwch chi'n mynd i fyny o'r maes parcio drwy'r porth, mae 'na chwyn yn tyfu o'r waliau.

"Rhaid i flaen y bws fod yn agos iawn at y chwyn er mwyn bod yn barod i droi a mynd drwodd ar ongl."

Dywedodd Goronwy Edwards aelod o Gabinet Conwy gyda chyfrifoldeb am gymunedau eu bod wedi eu cyfyngu gan nifer y safleoedd sydd o fewn ac o amgylch Conwy dros y blynyddoedd.

Gyrwr bws yn ceisio mynd drwy waliau hynafol Conwy
Mae'r cyngor yn ystyried creu maes parcio tu allan i'r dref ar gyfer y bysiau

"Na mae angen edrych o'r newydd ar yr hyn sydd ar gael a gofyn a allwn ni ddarparu safleoedd ar gyfer y bysiau i ollwng pobl mewn un lle tu allan i'r dref er mwyn i'r bysiau osgoi canol y dref.

"Y gobaith yw gwneud i'r bysiau ddefnyddio meysydd parcio eraill y byddwn yn eu datblygu.

"Rydym am ganfod atebion heb ddinistrio'r hyn sydd ganddo ni yn y dref.

"Mae'n fater pwysig iawn ac rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw ymwelwyr i'r dref.

"Mae'n bwysig ein bod yn datblygu pethau ar gyfer cynaliadwyedd."

Yn ôl Chris Owens, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Alpine Travel o Landudno, mae deddf Ewropeaidd wedi caniatáu i fysiau fod yn hirach ac yn lletach.

"Dydi tref Conwy ddim wedi newid ond mae'r bysiau, sydd droedfedd yn lletach nag oedden nhw yn y 1950au.

"Y brif broblem yw nad yw'r maes parcio bysiau yng nghanol y dref bellach yn addas.

"Mae'n golygu lot o waith caled a gofalus i'r gyrwyr, sydd yn aml iawn yn ymwelwyr eu hunain ac yn anghyfarwydd iawn a'r dref.

Dywedodd Toby Tunstall, Cadeirydd Siambr Fasnach Conwy, bod ymwelwyr ar y bysiau yn allweddol i'r dref.

"Mae 'na sawl cwmni wedi dweud eu bod yn gyndyn i ddod i'r dref oherwydd y pryderon traffig.

"Mae mwy a mwy o longau pleser yn cyrraedd Caergybi a Lerpwl ac mae'r bysiau yn dod a nhw mewn i'r dref.

"Maen nhw'n bobl sydd ag arian i'w wario ac os na fyddan nhw'n dod yma fe fydd yn ergyd i'r economi."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific