British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 30 Awst 2011, 18:52 GMT 19:52 UK
Stena Line: Cwtogi gwasanaeth cyflym

Gwasanaeth cyflym Stena Line
Y gost uchel o gynnal y gwasanaeth sydd ar fai yn ôl y cwmni.

Mae cwmni fferi Stena Line yn bwriadu cwtogi ar y gwasanaeth cyflym rhwng Cymru ac Iwerddon.

Dim ond am ychydig fisoedd yn ystod yr haf y bydd y llongau cyflym yn teithio rhwng Dun Laoghaire â Chaergybi.

Y gost uchel o gynnal y gwasanaeth sydd ar fai yn ôl llefarydd ar ran y cwmni.

Bydd y gwasanaeth cyflym yn dod i ben ar Fedi 13 ac yn ail gychwyn yn ystod haf 2012.

'Colledion'

Bydd cyfnod ymgynghori rhwng Stena Line â thri undeb sy'n cynrychioli 88 o weithwyr yn para am 30 diwrnod ac yn dechrau ddydd Mercher.

Dywedodd y cwmni y bydden nhw'n dal i redeg gwasanaeth dwy fferi draddodiadol rhwng y ddau borthladd drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd cyfarwyddwr busnes Môr Celtaidd Stena Line, Michael McGrath: "Er i ni geisio gostwng costau rhedeg y gwasanaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf dyw e ddim wedi bod yn bosib i ni wneud y gwasanaeth yn broffidiol.

"Mae'r rhan fwyaf o refeniw'r gwasanaeth cyflym yn deillio o gwsmeriaid sy'n defnyddio ceir a bysiau yn ystod yr haf.

"Allwn ni ddim cynnal y fath yma o golledion.

"Rydyn ni'n credu y bydd y cyfuniad o gynnal gwasanaeth dwy fferi draddodiadol rhwng Dun Laoghaire â Chaergybi ynghyd â'r gwasanaeth cyflym yn ystod yr haf yn ateb gofynion y farchnad a'n cwsmeriaid."

Yr wythnos ddiwethaf datganodd cwmni Frontline, sy'n rhedeg gwasanaeth fferi rhwng Abertawe â Cork, eu bod nhw'n bwriadu cwtogi eu gwasanaeth yn ystod y gaeaf, o deirgwaith i ddwywaith yr wythnos.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific