British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 31 Awst 2011, 06:14 GMT 07:14 UK
Pesda Roc yn cofio'r cynhyrchydd Les Morrison

Les Morrison
Roedd gan Les Morrison ei stiwdio recordio ei hun ym Methesda

Bydd Pesda Roc eleni yn rhoi llwyfan i gyfuniad eclectig o arddulliau cerddorol er cof am y cynhyrchydd a'r cerddor lleol, Les Morrison, a fu farw ym mis Ebrill.

Bydd yr ŵyl gerddorol gymunedol yn cynnig nifer o ddigwyddiadau cerddorol dan do ac yn yr awyr agored mewn lleoliadau ledled Bethesda rhwng Awst 31 a Medi 4.

Cynhelir talwrn i goffau Les Morrison a'r bardd, Iwan Llwyd, yng Nghlwb Criced Bethesda nos Fercher gyda pherfformiadau gan Geraint Lovgreen a Twm Morys, a thimau talwrn y beirdd Ogwen, Nantlle a Chaernarfon.

Bydd Gruff Rhys, Y Niwl a Cobois Rhos Botwnnog yn perfformio yn Neuadd Ogwen nos Iau.

Maffia Mr Huws

Dywedodd un o drefnwyr Pesda Roc, Dilwyn Llwyd: "Mae Pesda Roc yn bwysig i'r ardal drwy godi ysbryd pawb fel y gallan nhw ymfalchïo ym Methesda."

Ychwanegodd ei fod yn bwysig i'r ŵyl dalu teyrnged i'r cerddor a'r cynhyrchydd Les Morrison.

Roedd o'n amlwg iawn yn y sin gerddoriaeth ers y 1970au ac yn amlwg iawn ym Methesda lle datblygodd nifer o fandiau fel Maffia Mr Huws, Celt a Jecsyn Ffeif.

Y Niwl
Bydd Y Niwl yn perfformio yn Neuadd Ogwen ar nos Iau Medi 1

Fe sefydlodd ei stiwdio ar Stryd Fawr Bethesda gydag un o aelodau Maffia Mr Huws, Alan Edwards.

Ond wedi marwolaeth Mr Edwards mewn damwain car yn Llydaw yn 1987 fe wnaeth Mr Morrison barhau efo'r stiwdio.

"Roedd Les yn ysbrydoliaeth i'r sin roc Cymraeg cyfan ac roedd e'n rhoi ei amser i sicrhau llwyddiant y sin.

"Roedd e'n beiriannydd, cynhyrchydd a cherddor arbennig iawn."

Acid Casuals

Nos Wener cynhelir Noson Lawen yng nghwmni Dafydd Iwan, Meic Stevens, Siân James a Hogiau'r Bonc yn Neuadd Ogwen, Bethesda.

Mewn cyferbyniad llwyr, bydd rhythmau dinesig Wibidi, Acid Casuals, Poket Trez a'r Cyrion yn perfformio yng Nghlwb Rygbi Bethesda nos Sadwrn.

Geraint Jarman
Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Geraint Jarman yn y gogledd ers 2006

Ffrwyth cydweithio rhwng Dafydd Ieuan, Guto Pryce a Cian Ciaran o'r Super Furry Animals â Rashid Omar o Gaerdydd yw Wibidi - grŵp sy'n cyfuno dyb roc a hip hop ac a fydd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y gogledd ym Mhesda Roc.

Bydd Poket Trez, sy'n cynnwys sawl cyn aelod o'r band Zabrinski o Gaerfyrddin hefyd yn chwarae yn y gogledd am y tro cyntaf yn yr ŵyl.

Bydd Cian Ciaran aka Acid Casuals hefyd yn DJ yn y clwb gyda chefnogaeth gan ddau DJ o Wynedd, Kim de Bills ac Ifan Dafydd.

Fe fydd Geraint Jarman a Maffia Mr Huws yn rhannu llwyfan yn Neuadd Ogwen nos Sadwrn fel rhan o ŵyl Pesda Roc 2011.

Mae'n chwarter canrif ar ôl iddyn nhw deithio Cymru gyda'i gilydd yn 1986 ar Daith y Carcharorion.

Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Geraint Jarman ym Methesda ers Pesda Roc 2006, y digwyddiad a sbardunodd Maffia Mr Huws i ailffurfio.

Bydd Maffia yn chwarae â'r aelodau gwreiddiol - Hefin Huws yn canu, y brodyr Siôn a Gwyn Jones ar gitâr a drymiau a Deiniol Morris ar y bas, a cherddorion y Maffia fydd craidd band Jarman am y noson, gydag ychwanegiad Pwyll ap Siôn a Gareth Moriarty.

Bydd y noson hefyd yn cynnwys perfformiad gan Celt, ac agorir y noson gan The Chillingtons, band y mae Danny, mab Les Morrison, yn drymio iddyn nhw.

Prynhawn Sul fe fydd 9Bach; Jaci Williams ac Aaron Elias yn chwarae yn Fitzpatrick's Bethesda cyn y bydd gig yn y clwb rygbi gyda Bryn Fôn; Y Bandana a Rhian Mostyn.

Mae'r tocynnau ar gyfer y noson efo Maffia wedi gwerthu allan ers dros wythnos.



HEFYD
Les Morrison wedi marw
30 Ebr 11 |  Newyddion
Maffia Mr Huws yn ail ffurfio
19 Meh 06 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific