British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 30 Awst 2011, 12:56 GMT 13:56 UK
Ched Evans yn y llys wedi ei gyhuddo o dreisio

Ched Evans
Mae Ched Evans wedi chwarae 22 gwaith dros Gymru

Mae pêl-droediwr Cymru a Sheffield United, Ched Evans, wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o dreisio.

Cafodd y chwaraewr 22 oed ei arestio ar ôl digwyddiad honedig mewn gwesty yn Rhuddlan ar Fai 31.

Mae disgwyl iddo fo ac amddiffynnwr Port Vale, Clayton McDonald, 22 oed, bledio pan fyddan nhw'n ailymddangos yn y llys ym mis Hydref.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth wedi'r gwrandawid yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Roedden nhw wedi ymddangos mewn gwrandawiad blaenorol o flaen Ynadon Prestatyn.

Teulu

Honnir i'r digwyddiad gyda merch 19 oed ddigwydd yng ngwesty Premier Inn, Rhuddlan.

Mae amodau mechnïaeth y ddau bêl-droediwr yn cynnwys na fyddan nhw'n mynd i ogledd Cymru ac eithrio ar gyfer yr achos llys.

Gwrthodwyd cais Mr Evans, ymddangosodd o dan ei enw llawn - Chedwyn Evans, i gael dychwelyd adref i'r Rhyl i weld ei deulu pan oedd ganddo ddiwrnod i ffwrdd.

Mae Mr Evans wedi ennill 22 cap dros Gymru.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Gwlad yr Iâ ym mis Mai 2008 a sgorio'r unig gôl.

Dringodd i fyny'r rhengoedd gyda thîm Uwch-gynghrair Manchester City, cyn treulio amser ar fenthyg i Norwich City.

Ar ôl dychwelyd i Stadiwm Etihad, cafodd ei werthu'n ddiweddarach i Sheffield United yn 2009 am £3m, ond ni allai achub y clwb rhag disgyn i Gynghrair Un y tymor diwethaf.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific