Mae cyflwr afonydd Cymru a Lloegr wedi gwella'n sylweddol yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.
Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd gwell rheoleiddio a chydweithio sydd wrth wraidd hyn.
Mae Afon Taf ac Afon Dyfrdwy ymhlith y 10 afon sydd wedi gwella orau yng Nghymru a Lloger.
Mae cyflwr da'r afonydd yn arwain at fywyd gwyllt unwaith eto yn cynefino ynddyn nhw.
Llwyddodd Afon Taf i fod yn atyniad poblogaidd ar gyfer pysgotwyr ac mae cyflwr dwr Afon Dyfrdwy wedi elwa o reolau llymach ar lygredd diwydiannol.
Er y newyddion da, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud bod 'na lawr o waith eto i'w wneud.
'Chwyldro diwydiannol'
Fe wnaeth yr asiantaeth ganmol y gwaith sylweddol wedi ei wneud i sicrhau bod yr afonydd yn hafan i fywyd gwyllt, cerddwyr a physgotwyr.
Maen nhw'n annog y cyhoedd i gerdded ar hyd yr afonydd lleol er mwyn gweld yr adfywiad drostyn nhw eu hunain.
Mae ansawdd dwr Afon Dyfrdwy wedi gwella
"Mae afonydd Prydain yn iachach nag yr oedden nhw 20 mlynedd a mwy yn ôl," meddai Ian Barker, pennaeth tir a dŵr yr Asiantaeth.
"Mae dyfrgwn, eogiaid a bywyd gwyllt eraill yn dychwelyd i'r afonydd am y tro cyntaf ers y chwyldro diwydiannol.
"Mae 'na lawer o waith i'w wneud o hyd ac mae 'na gynlluniau i drawsnewid tua 9,500 milltir arall o afonydd yng Nghymru a Lloegr erbyn 2015 - sydd gyfystyr a'r pellter rhwng y DU ac Awstralia."
Yn ystod yr 1980au roedd afonydd de Cymru wedi eu llygru cymaint doedd 'na ddim bywyd gwyllt yno.
Ond 30 mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl i'r gwaith glo gau a grwpiau amgylcheddol yn gweithio i'w glanhau mae Afon Taf yn gartref unwaith eto i amrywiaeth o fywyd gwyllt gan gynnwys eogiaid, dyfrgwn, brithyll y môr a llyswennod.
Mae cyflwr y dŵr wedi gwella yn ddramatig ar ôl i reolau llymach gael eu cyflwyno.
Afon Dyfrdwy yw un o ffynonellau cyflenwi dŵr unigol mwya'r DU.
Mae hefyd yn gyrchfan pysgota pwysig ar gyfer y brithyll a'r eog.
Dros y gaeaf mae dros 100,000 o rydwyr a 20,000 o gywion ieir yn cartrefu yno.
Mae 'na ddiwydiant cocos pwysig hefyd yn Afon Dyfrdwy.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.